Mae Tîm Nyrsio Ysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i rieni plant ysgol yn y dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wirio bag ysgol eu plentyn am ffurflen caniatâd brechlyn ffliw trwynol eleni a’i dychwelyd i'r ysgol erbyn 17 Medi.
Gall y ffliw fod yn annymunol iawn i blant ac weithiau arwain at gymhlethdodau difrifol fel niwmonia a broncitis. Mae’r brechlyn ffliw trwynol blynyddol am ddim yn ffordd gyflym a di-boen i amddiffyn eich plentyn rhag y firws. Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant yn lledaenu ffliw i eraill sydd â risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai a chyflyrau iechyd tymor hir.
Dywed Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, yn BIP Hywel Dda: “Bob blwyddyn, mae ein tîm nyrsio ysgolion yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau bob pob plentyn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael cynnig y brechlyn ffliw trwynol i'w amddiffyn nhw a’u teuluoedd.
“Eleni, mae cymhwysedd y brechlyn ffliw trwynol wedi’i ymestyn ac yn cael ei gynnig i blant o’r dderbynfa hyd at flwyddyn 11. Rwy’n annog rhieni i fanteisiwch ar y cyfle hwn ac anfon eu ffurflenni caniatâd mewn pryd i helpu i gadw eich plant a Hywel Dda’n ddiogel.”
I gael mwy o wybodaeth am y brechiad ffliw ymwelwch Imiwneiddio a Brechlynnau - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)