Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip wedi dod i ben

25 Gorffennaf 2025

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus deuddeg wythnos a oedd yn ceisio barn ar yr opsiynau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau (UMA) yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli bellach wedi cau.

Wedi’i lansio ar 28 Ebrill 2025, roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd safbwyntiau ar bedwar opsiwn hirdymor posibl ar gyfer yr UMA, yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau amgen gan y gymuned. Yn ystod yr ymgynghoriad, derbyniwyd 729 o ymatebion i’r holiadur gan aelodau’r cyhoedd, staff a rhanddeiliaid, yn ogystal â’r cannoedd o sgyrsiau a gafwyd ag unigolion.

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: “Diolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu barn. Mae hwn wedi bod yn ymgynghoriad gwerthfawr a chadarnhaol, ac rydym wedi clywed ystod eang o safbwyntiau a syniadau.”

“Diolch hefyd i aelodau SOSPPAN a Llais sydd wedi cefnogi ein proses ymgynghori ac wedi chwarae rhan weithredol wrth annog pobl i rannu eu syniadau gyda ni.”

Dros y deuddeg wythnos diwethaf, bu cannoedd o bobl yn ymgysylltu trwy ddigwyddiadau galw heibio, cyfarfodydd ar-lein, a thrafodaethau cymunedol. Cyfarfu’r Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol hefyd â chleifion a staff yn yr ysbyty i gasglu adborth.

Mae Mark yn parhau: “Rydym nawr yn cychwyn ar gyfnod o ystyriaeth gydwybodol lle rydym yn adolygu ac yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a dderbyniwyd, gan gynnwys unrhyw opsiynau amgen a gyflwynwyd, cyn cyflwyno adroddiad i’n Bwrdd am benderfyniad. Rydym yn rhagweld y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Medi o’r Bwrdd cyhoeddus, unwaith y bydd yr holl adborth wedi’i ystyried.”

Mae’r UMA wedi bod yn gweithredu o dan oriau agor dros dro rhwng 8am ac 8pm bob dydd ers mis Tachwedd 2024, oherwydd heriau staffio ac er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff. Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio’n benodol ar wasanaethau ar gyfer yr uned mân anafiadau, sy’n trin cyflyrau fel clwyfau, crafiadau, ysigiadau, a mân doresgyrn, a sut y caiff y rhain eu darparu yn Llanelli yn y dyfodol. Nid yw’r Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip yn rhan o’r ymgynghoriad, sy’n parhau i ddarparu gofal brys i oedolion sy’n ddifrifol wael.

Os ydych chi'n byw yn, yn agos at, neu'n ymweld â Llanelli ac yn cael mân anafiadau yn ystod y dydd (rhwng 8.00am ac 8.00pm), gallwch barhau i gerdded i mewn i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Os bydd eich mân anaf yn digwydd rhwng 8.00pm ac 8.00am ac yn methu aros tan y diwrnod wedyn, defnyddiwch: