Neidio i'r prif gynnwy

Mae siarad am brofiadau plentyndod gydag ymwelydd iechyd yn cyfoethogi perthnasoedd ac yn gwella iechyd y teulu cyfan

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (03.06.21) yn awgrymu pan fydd ymwelwyr iechyd yn holi am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) y sawl sy'n rhoi gofal fel rhan o'u hymweliadau rheolaidd, ceir cyfres o fanteision cadarnhaol i bawb.

Mae’r rhain yn cynnwys cefnogi iechyd meddyliol a chorfforol y sawl sy'n rhoi gofal, a datblygu perthynas wedi’i chyfoethogi rhwng yr ymwelydd iechyd a’r sawl sy’n rhoi gofal sy'n golygu y bydd y sawl sy'n rhoi gofal yn fwy tebygol o deimlo’n gyfforddus yn trafod materion eraill yn y dyfodol.  

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar gynllun peilot blaenorol a gynhaliwyd yn Ynys Môn. Defnyddiodd yr adroddiad hwn ar raddfa fwy hyfforddwr-hwylusydd i weithio gydag Ymwelwyr Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gynllunio a chyflwyno dull o holi mamau a thadau am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) o fewn cysylltiadau ymwelwyr iechyd rheolaidd (a elwir yn ‘ymholiad ACE’). Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gomisiynu i werthuso’r rhaglen beilot hon ar raddfa ganolig.

Dyma ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth:

  • Er gwaethaf pryderon cychwynnol ymwelwyr iechyd ynghylch ymateb negyddol posibl, cafodd y cynnig o ymholiad ACE dderbyniad da iawn, gyda 9 o bob 10 o’r rhai sy'n rhoi gofal yn cytuno i gymryd rhan yn y cynllun peilot, ar draws y tri bwrdd iechyd
  • Dywedodd dros 40% o’r rhai sy’n rhoi gofal sydd ag unrhyw ACE mai'r cynllun peilot ymholiadau ACE oedd y tro cyntaf iddynt ddweud wrth weithiwr proffesiynol neu wasanaeth am y profiadau hyn, gyda’r datgeliad cyntaf yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion sy'n rhoi gofal (55.1% o ddynion ag ACE).
  • Roedd 4 o bob 5 o’r rhai sy’n rhoi gofal a roddodd adborth yn cytuno bod eu Hymwelydd Iechyd wedi dod i'w hadnabod yn well drwy holi am eu profiadau yn ystod plentyndod ac awgrymodd 85% fod yr ymyriad wedi eu gwneud yn fwy tebygol o drafod materion eraill gyda'u Hymwelydd Iechyd yn y dyfodol. Felly roedd ansawdd eu perthnasoedd a’r gwasanaeth a gawsant wedi gwella.
  • Roedd y rhai sy’n rhoi gofal a gafodd ymholiad ACE yn llawer llai tebygol o nodi eu bod yn profi straen rhieni (chwe mis ôl-enedigol), o gymharu â’r rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn ymholiad ACE.

Gellir gweld y datganiad i'r wasg llawn yma.