Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwirfoddolwyr gofal lliniarol yn cynnig cysur a gofal i gleifion a'u teuluoedd

15 Hydref 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr i ymuno â'i Wasanaeth Gwirfoddolwyr Diwedd Oes, a sefydlwyd y llynedd i ddarparu cefnogaeth a chwmnïaeth llawn tosturi i gleifion sy'n derbyn gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac i'w teuluoedd.

Mae'r gwasanaeth yn ategu'r gofal a ddarperir gan dimau clinigol, gan gynnig cymorth emosiynol, bugeiliol ac ymarferol yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol bywyd. Nod allweddol yw helpu i sicrhau nad oes unrhyw glaf yn wynebu diwedd ei fywyd ar ei ben ei hun.

I bobl y gall eu hanwyliaid fyw ymhell i ffwrdd, neu sydd â rhwydweithiau cymorth cyfyngedig, mae gwirfoddolwyr yn cynnig cwmnïaeth, sicrwydd a phresenoldeb cysurol pan fo eu hangen fwyaf.

Dywedodd un o'n gwirfoddolwyr, Michael Bassett: "Mae ffrindiau a theulu yn aml yn gofyn i mi a ydw i'n mwynhau fy amser yn gwirfoddoli yn Nhŷ Bryngwyn. Rwyf bob amser yn ateb mai 'mwynhau' yw'r gair anghywir, gan fy mod yn teimlo'n freintiedig i dreulio amser gyda chleifion sydd, yn anffodus, ar ddiwedd eu hoes."

Mae'r rôl yn ymestyn y tu hwnt i gefnogaeth wrth ochr y gwely. Mae gwirfoddolwyr diwedd oes yn helpu cleifion i barhau i fyw mor llawn â phosibl trwy rannu sgyrsiau ystyrlon; darparu cwmni, cefnogi gweithgareddau sy'n dod â chysur a llawenydd; a helpu i greu atgofion gwerthfawr gyda'u hanwyliaid. Weithiau, gall eu cyfraniad mwyaf gwerthfawr fod mor syml â bod yno i wrando, cynnig llaw i'w dal, neu ddarparu presenoldeb tawel a chysurlon.

Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr sy'n gweithio ym maes gofal diwedd oes yn cefnogi cleifion yn Hosbis Tŷ Bryngwyn ac Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd David Gravell, Uwch Brif Nyrs Gofal Lliniarol Arbenigol yn yr Uned Cleifion Mewnol “Mae’r effaith eisoes wedi bod yn sylweddol. Mae gwirfoddolwyr wedi dod yn rhan werthfawr o’r tîm gofal ehangach, gan ddarparu cysur, cwmni a chefnogaeth emosiynol i gleifion a theuluoedd, wrth wella’r gofal sy’n canolbwyntio ar y person a ddarperir gan gydweithwyr clinigol. Mae eu cyfraniad wedi cael croeso cynnes gan gleifion, perthnasau a staff fel ei gilydd, gyda llawer yn disgrifio’r gwasanaeth fel un sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn ystod amgylchiadau anodd ac emosiynol.”

Dywedodd un perthynas: "Roedd hi'n hyfryd cyrraedd yr hosbis a gweld fy ngŵr yn sgwrsio ac yn mwynhau ei hun. Mae'n braf siarad â'r gwirfoddolwyr, ac maen nhw bob amser yn awyddus i fy helpu gyda the a choffi. Roedd y ddau wirfoddolwr y cyfarfûm â nhw yn ddeallgar ac yn gefnogol iawn, ac roedd eu cwmni ar adegau yn fendith."

Mae'r Bwrdd Iechyd bellach yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghaerfyrddin, Hwlffordd ac Aberystwyth.

Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i gleifion a theuluoedd yn ystod un o gyfnodau pwysicaf bywyd i gysylltu i ddysgu mwy am y cyfle gwirfoddoli gwerth chweil hwn trwy gysylltu â’n tîm Gweithlu’r Dyfodol ar HDD.FutureWorkforceTeam@wales.nhs.uk

DIWEDD