Uchod: Codwyr Arian Jess Gibby, Alan Flear a Lydia Hayward
Mehefin 27 2022
Bydd tîm o godwyr arian gwych yn cystadlu ym Mhenwythnos Cwrs Hir Cymru wythnos nesaf. Byddant yn codi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cynhelir Penwythnos y Cwrs Hir (LCW) yn Sir Benfro rhwng 1 a 3 Gorffennaf 2022 a dyma’r ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, gan ddenu dros 10,000 o athletwyr. Elusennau Iechyd Hywel Dda yw'r Partner Elusen Teitl ar gyfer y digwyddiad.
Bydd bron i 20 o godwyr arian yn cystadlu i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Jess Gibby, sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd, yn cymryd rhan yn Nofio 1.2 Milltir a Hanner Marathon Cymru. Dywedodd Jess: “Byddaf yn nofio ac yn rhedeg i godi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn Sir Benfro. Rydw i wedi bod yn gweithio yn Hywel Dda fel nyrs iechyd meddwl ers bron i ddwy flynedd bellach a byddwn wrth fy modd yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw.”
Mae Alan Flear, sy’n gweithio yn Adran Radioleg Ysbyty Glangwili, yn cymryd rhan mewn dim llai na thri digwyddiad: y Nofio 2.4 Milltir, y Beicio 112 Milltir, a Marathon Cymru. Dywedodd Alan: “Mae’r Uned Gofal Pediatrig a Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili yn rhagorol o ran darparu gofal i blant yn ardal Hywel Dda. A minnau’n dad i dri o blant, roeddwn i eisiau codi arian ar gyfer ward sy’n agos at fy nghalon ac sydd bob amser wedi rhoi gofal a gwasanaeth gwych i’m teulu.”
Bydd Lydia Hayward, sydd hefyd yn gweithio i'r bwrdd iechyd, yn cymryd rhan ym Marathon Cymru. Dywedodd Lydia: “Rwyf i ac un o fy nghydweithwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiadau LCW yn Ninbych-y-pysgod eleni i godi arian ar gyfer dodrefn gardd ac offer i alluogi ein defnyddwyr gwasanaeth i fwynhau'r mannau awyr agored yn ddiogel yn ein wardiau iechyd meddwl oedolion hŷn.
“Mae mor bwysig bod defnyddwyr ein gwasanaethau a’u hanwyliaid yn gallu mwynhau’r amser hwnnw oddi ar y ward gyda’i gilydd, boed hynny er mwyn ymlacio a dal i fyny, neu efallai gymryd rhan mewn gweithgareddau therapiwtig.”
Bydd gan Elusennau Iechyd Hywel Dda stondin ym Mhenwythnos Cwrs Hir, gan roi’r cyfle i ddarganfod mwy am waith yr elusen a gwneud cyfraniad.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn yr elusen: “Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gyda Activity Wales Events fel Partner Elusen Teitl ar gyfer Penwythnos Cwrs Hir eleni.
“Bydd yr arian a gawn yn helpu Hywel Dda i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.
“Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!”