Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant gwobr buddsoddi mewn gofalwyr

21 Tachwedd 2024

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr [21 Tachwedd 2024], llongyfarchir nifer o wasanaethau gofal iechyd lleol ar lwyddo i ennill eu gwobrau Buddsoddwyr mewn Gofalwyr (IiC).

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar, a gwella, eu hymwybyddiaeth o ofalwyr a’r cymorth a chefnogaeth y maent yn ei roi i ofalwyr.

Mae’r timau a dderbyniodd eu gwobrau Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn ddiweddar yn dod o amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel a ganlyn:

  • Tîm Adsefydlu'r Ysgyfaint, yn cwmpasu'r tair sir - Gwobr Lefel Arian
  • Tîm Cymunedol Ceredigion, Anableddau Dysgu - Gwobr Lefel Arian.
  • Meddygfa Gelli-Onn, Sir Gaerfyrddin – Gwobr Lefel Efydd
  • Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol Ceredigion - Dyfarniad Lefel Efydd
  • Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol Sir Gaerfyrddin - Gwobr Lefel Efydd
  • Gwasanaeth Nyrsio Plant Cymunedol - Gwobr Lefel Efydd.
  • Tîm Niwroddatblygiadol Plant a Phobl Ifanc, yn cwmpasu'r tair sir - Gwobr Lefel Efydd
  • Hospis Ty Bryngwyn, Llanelli - Gwobr Lefel Efydd
  • Gwasanaethau Cwnsela Profedigaeth Ty Cymorth, Sir Gaerfyrddin - Dyfarniad Lefel Efydd

Dywedodd Eleanor Marks, Is-Gadeirydd y bwrdd iechyd a Hyrwyddwr Gofalwyr: “Mae derbyn y gwobrau Buddsoddwyr mewn Gofalwyr hyn yn dangos yn glir ymrwymiad y timau i gydnabod a chefnogi hawliau gofalwyr di-dâl. Fel hyrwyddwr gofalwyr y bwrdd iechyd, rwy’n arbennig o falch o’r cyflawniad hwn ac yn edrych ymlaen at weld llawer mwy o wasanaethau’n ennill yr achrediad allweddol hwn.”

Llinos Janes-Jones, arweinydd gofalwyr ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol Ceredigion “Fel tîm, rydym yn wirioneddol gredu ym mhwysigrwydd cydnabod a sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi. Rydym mor falch o gael cydnabod hyn gyda’r wobr hon a byddwn yn parhau yn ein hymdrechion wrth symud ymlaen.”

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn cael ei ddarparu gan y bwrdd iechyd a’i gefnogi gan awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth am hawliau a chymorth Gofalwyr, ewch i:
Gwybodaeth i Ofalwyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)