Heddiw (14eg o Chwefror) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dod yn gyflogwr diweddaraf i ymuno â Siarter y TUC gyda'r nod o helpu gweithwyr sy'n dod yn derfynol wael yn y gwaith.
Mae'r ymgyrch Iechyd Marwol yn ceisio mwy o ddiogelwch i weithwyr sy'n derfynol wael ac yn cynnig amddiffyniadau cyflogaeth ychwanegol iddynt pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Aethpwyd â'r ymgyrch ymlaen gan y TUC yn dilyn achos Jacci Woodcook, rheolwr gwerthu o ardal Swydd Derby a orfodwyd allan o'i swydd ar ôl cael diagnosis o ganser terfynol y fron.
Mae’r TUC yn gofyn i gyflogwyr arwyddo i’w siarter i atal achosion fel Jacci rhag digwydd yn y dyfodol.
Mae'r Siarter Iechyd Marwol bellach yn cynnwys dros filiwn o weithwyr ar draws y sector breifat a chyhoeddus gan gynnwys cyflogwyr adnabyddus fel Rolls Royce, y Post Brenhinol a nifer o awdurdodau lleol Cymru.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Phil Kloer: “Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen wrth gefnogi ein staff pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn falch o ymuno â'r Siarter hon heddiw a fydd yn cryfhau ein gwerthoedd fel sefydliad ac fel cyflogwr.”
Dywedodd Arweinydd Iechyd Marwol TUC Cymru, Gareth Hathway: “Dylai eich swydd fod y lleiaf o'ch pryderon pan fyddwch chi'n cael diagnosis terfynol.
“Mae'n wych gweld undebau llafur a chyflogwyr yn gweithio mewn partneriaeth i amddiffyn y 10,000 o weithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y siarter yn gysur mawr i'r rhai sydd ei angen a'u teuluoedd. "
Dywedodd Cynrychiolydd RCN Cymru, Sandra Watson: “Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn falch o fod yn rhan o'r siarter hon. Mae ein cyfranogiad yn dangos ein hymroddiad llwyr i'n holl staff a'u hamgylchiadau personol. Mae'n hanfodol bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi yn eu gweithle. Rydym yn hynod falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymuno â'r siarter a byddem yn annog pob cyflogwr i ymuno â ni.”
Dywedodd Nadia Probert, Ysgrifennydd cangen UNSAIN: “Rwy’n falch iawn bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda’r undebau llafur ac yn cefnogi ymgyrch TUC Cymru i gefnogi hawliau gweithwyr yn well yn dilyn diagnosis terfynol.
“Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal i’w gweithlu a gobeithiwn y bydd eraill yn dilyn esiampl Hywel Dda ac yn arwyddo’r siarter hefyd.”
Nodiadau:
1. Gellir gweld rhestr o lofnodwyr y Siarter yma: https://www.dyingtowork.co.uk/whos-signed/
2. Mae Siarter Wirfoddol y TUC Iechyd Marwol yn nodi:
3. Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Iechyd Marwol ar gael yn www.dyingtowork.co.uk