Neidio i'r prif gynnwy

Llinell gymorth llesiant ar gael 24/7

11 Tachwedd 2022

Mae llinell ffôn 24 awr ar gyfer cymorth llesiant ac iechyd meddwl i bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi mynd yn fyw.

Ym mis Mehefin 2022, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio gwasanaeth cyngor iechyd meddwl pwrpasol, gan gynnig cymorth i bob grŵp oedran drwy’r llinell alw 111 sefydledig.

O'r wythnos hon ymlaen, bydd gan y llinell ffôn oriau estynedig, gan wneud cymorth yn hygyrch ddydd a nos.

Bydd pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth drwy ffonio 111 a dewis opsiwn 2 lle byddant yn cael eu trosglwyddo i ymarferydd iechyd meddwl.

Yn y lansiad swyddogol dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae’r ffonio 111 a pwyso 2 yn drawsnewidiad gwasanaeth sylweddol i wella mynediad at gymorth ac rwy’n falch iawn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn un o’r byrddau iechyd cyntaf i lansio’r gwasanaeth 24/7 newydd.

“Rydym wedi darparu £6m i gefnogi byrddau iechyd i roi’r gwasanaeth hwn ar waith gyda’r nod o gael gwasanaeth 24/7 ledled Cymru y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Pan ddechreuon ni’r daith Trawsnewid Iechyd Meddwl roedd gennym ni uchelgais clir i symud oddi wrth fodel gwasanaeth traddodiadol i ailgynllunio gwasanaethau er budd pobl leol.

“Mae datblygu un pwynt mynediad wedi parhau’n flaenoriaeth i’r bwrdd iechyd ac mae’n darparu sylfaen ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar y claf, yn ymatebol ac yn hygyrch.

“Rwy’n hynod o falch mai ni yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd yn fyw gyda’r gwasanaeth hwn. Mae wedi bod yn ymdrech tîm mewn gwirionedd a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.”

Dywedodd Liz Carroll, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn croesawu’r cyfle i fod y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd yn fyw gyda’r gwasanaeth Iechyd Meddwl 111.

“Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cael ymateb gwirioneddol frwd gan ein staff a’n rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu hyn.

“Bydd y gwasanaeth hwn yn galluogi i’n poblogaeth gael mynediad at un pwynt cyswllt y gellir ei ddefnyddio gan y rhai sydd am geisio gwybodaeth ganddynt eu hunain neu anwyliaid mewn perthynas â phryderon neu ymholiadau iechyd meddwl.

“Yn bwysig, bydd gan y rhai sy’n gweithredu’r gwasanaeth y gallu i gynorthwyo i gyfeirio unigolion at y gwasanaethau hynny sy’n bodloni eu gofynion orau gan ddarparu mynediad amserol.”

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Ross Evans, arweinydd Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer Iechyd Meddwl: “Rydym yn croesawu’r gwasanaeth newydd hwn ac yn cydnabod gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol wrth gyrraedd y garreg filltir hon.

“Mae holl staff ein hystafell reoli wedi derbyn hyfforddiant iechyd meddwl ychwanegol i’n helpu i wella’r ffordd rydym yn cefnogi aelodau o’r cyhoedd. Rwy’n falch o weld bod y system 111 newydd wedi bod yn gweithio’n dda hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd drwy weithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth.

“Mae ein ffocws ar y cyd yn parhau i fod ar sicrhau mynediad cyflym i’r gwasanaethau gorau a mwyaf priodol.”

 Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r Chwe Nod Cenedlaethol ar gyfer Rhaglen Gofal Brys ac Argyfwng sydd wedi’i hanelu at egwyddor “gofal iawn yn y lle iawn y tro cyntaf”, ac mae wedi’i gynllunio drwy edrych ar fodelau arfer gorau yn yr Alban a Lloegr yn ogystal â dysgu o ffynonellau lleol allweddol gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, staff, Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru a'r Cyngor Iechyd Cymunedol.

Amlygwyd yr angen am un pwynt cyswllt fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus y bwrdd iechyd ar Drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn 2017.

I gael newyddion a diweddariadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i:https://hduhb.nhs.wales/news/press-releases/ (agor yn dolen newydd)