Lleoliad newydd ar gyfer rhai gwasanaethau podiatreg ac orthoteg yn Aberystwyth

26 Hydref 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu symud rhai gwasanaethau podiatreg ac orthoteg nad ydynt yn acíwt o Ysbyty Bronglais i Ganolfan Rheidol, Rhodfa Padarn yn Aberystwyth.

Bydd yr adleoliad, sydd wedi'i gynllunio i ddigwydd ar 9 Tachwedd 2026, yn effeithio ar:

  • clinigau podiatreg (gan gynnwys clinigau podiatreg cyhyrysgerbydol i oedolion a phlant)
  • Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS)
  • gwasanaethau orthoteg ac offer llawfeddygol, a
  • apwyntiadau sgrinio fasgwlaidd nad ydynt ar frys

Bydd podiatreg acíwt, gofal sy'n gysylltiedig â diabetes a gwasanaethau fasgwlaidd brys yn parhau yn Ysbyty Bronglais. 

Nod yr adleoli yw gwella profiad cleifion trwy ddarparu clinigau mewn amgylchedd mwy hygyrch ac addas. Ni fydd y llwybrau atgyfeirio, y meini prawf cymhwysedd ar gyfer triniaeth, na'r dull o flaenoriaethu cleifion yn newid.

Ar hyn o bryd, mae rhai clinigau yn cael eu cynnal mewn ardaloedd sydd â lle cyfyngedig ar gyfer cadeiriau olwyn ac asesiadau symudedd. Gall cleifion hefyd brofi anawsterau o ran barcio, mynediad at doiledau a chael apwyntiadau wedi'u canslo pan fydd lifftiau allan o wasanaeth.

Mae Canolfan Rheidol yn cynnig ystafelloedd clinig ar y llawr gwaelod, gwell hygyrchedd, toiledau hygyrch gerllaw a chyfleusterau parcio gwell. Mae gan y safle hefyd le i storio dyfeisiau arbenigol, gan helpu cleifion i dderbyn offer addas yn gyflymach a lleihau'r angen am ymweliadau ailadroddus.

Disgwylir i'r adleoliad wella preifatrwydd, cysur ac urddas i gleifion. Dylai hefyd helpu i leihau apwyntiadau wedi'u canslo, byrhau amseroedd aros a chreu capasiti clinig ychwanegol.

Mae'r ystafelloedd clinigol yng Nghanolfan Rheidol eisoes wedi'u paratoi. Disgwylir i'r adleoli digwydd unwaith y bydd y trefniadau gofod swyddfa terfynol wedi'u cwblhau. Bydd yr adleoliad yn gweld y gwasanaeth yn ymuno â gwasanaethau iechyd eraill sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfan Rheidol - swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion.

Efallai y bydd angen i rai cleifion deithio i leoliad gwahanol ar gyfer apwyntiadau. Er mwyn helpu i leihau dryswch, bydd llythyrau apwyntiad, galwadau atgoffa, arwyddion a gwybodaeth ar gyfer atgyfeirwyr yn cael eu darparu cyn i'r adleoliad ddigwydd.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Wrth wraidd yr adleoli hwn mae ein hymrwymiad i gynnal y gwasanaethau y gall pobl ddibynnu arnynt. Ni fydd yr adleoliad yn arwain at unrhyw ostyngiad yn nifer y staff, apwyntiadau clinig na'r cymorth sydd ar gael i gleifion.

"Pan fydd yr adleoliad yn mynd yn ei flaen, bydd cleifion, gofalwyr ac atgyfeiriwyr yn derbyn gwybodaeth uniongyrchol am y lleoliad newydd, opsiynau teithio a threfniadau hygyrchedd cyn i’r gwasanaethau gael eu trosglwyddo. Bydd unrhyw un sydd ag apwyntiad y mae’r newid lleoliad yn effeithio arno yn cael cyswllt uniongyrchol.

"Yn y cyfamser, rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y gwasanaeth i ddweud eu dweud. Bydd eich adborth yn helpu i lunio ein dealltwriaeth o sut y gallai'r adleoliad effeithio ar unigolion a theuluoedd, a'r hyn y gallwn ei wneud i leihau unrhyw aflonyddwch."

Mae'r adleoliad wedi'i gynllunio ar gyfer 9 Tachwedd 2026. Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymgysylltu â staff a chleifion o 26 Hydref am bythefnos cyn yr adleoliad i ddeall sut y gall y newid effeithio arnynt. Bydd cyfnod ymgysylltu pellach o bedair wythnos yn dilyn yr adleoliad, hyd at 4 Rhagfyr 2026, gan roi cyfle i gleifion a staff rannu eu profiadau o'r lleoliad newydd. Yna bydd adborth yn cael ei adolygu a bydd unrhyw gamau sydd eu hangen i wella'r gwasanaeth ymhellach yn cael eu datblygu a'u gweithredu fel rhan o'r broses bontio.

Mae Canolfan Rheidol eisoes yn cynnal nifer o wasanaethau iechyd ac yn cynnig cyfleusterau modern, gwell hygyrchedd, parcio ar y safle a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys llwybrau bysiau T1 a T5.

Dweud eich dweud

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhannu eu barn gwblhau'r arolwg byr erbyn 4 Rhagfyr 2026.

Mae'r arolwg yn ddienw. Gall pobl rannu eu barn trwy:

  • Dychwelyd copi papur i aelod o staff yn ystod apwyntiad

Diwedd