Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

29 Mai 2025 

Gall pobl rannu eu barn am sut y gellid darparu naw gwasanaeth gofal iechyd mewn ysbytai a chyfleusterau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod Bwrdd heddiw (dydd Iau, 29 Mai 2025).

Mae'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth gofal iechyd sydd â'r angen mwyaf am gymorth a'i nod yw mynd i'r afael â bregusrwydd, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros ar gyfer pobl sydd angen diagnosis a thriniaeth.

Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg, strôc ac wroleg. Nid oes unrhyw newidiadau i sut mae pobl yn cael mynediad at ofal brys (A&E) neu ofal mân anafiadau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn (mae ymgynghoriad ar wahân yn parhau ar ofal mân anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli).

Mae sawl opsiwn ar gyfer pob gwasanaeth yn yr ymgynghoriad a allai effeithio ar y ffordd y cânt eu trefnu mewn ysbytai lleol.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 31 Awst 2025 a bydd yn gofyn am farn staff, cleifion, partneriaid a chymunedau, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn o ardaloedd cyfagos yn ne Gwynedd, gogledd Powys ac Abertawe / Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood: “Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar yr opsiynau a gyflwynwyd, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw atebion a ffefrir. Mae’r newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud er mwyn sicrhau bod gennym wasanaethau diogel, o ansawdd uchel a gofal iechyd fforddiadwy yn y dyfodol, a bod gennym ni les gorau pobl gorllewin Cymru a’u profiad fel claf wrth galon hynny.”

“Gofynnwn i chi adolygu’r dogfennau ymgynghori a rhannu eich barn ar ba opsiynau sydd orau yn eich barn chi i fynd i’r afael â breuder gwasanaeth, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros.”

“Rydym am wrando ar eich pryderon neu’r effeithiau posibl y credwch y gallai opsiynau eu cael a’ch barn ar rôl ein hysbytai yn y dyfodol. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw opsiynau neu syniadau eraill sydd gennych.”

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried yr hyn y mae wedi’i glywed mewn ymgynghoriad, yn ogystal â thystiolaeth ategol a data a gasglwyd. Disgwylir i hyn gael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd 2025, oni bai bod angen dadansoddiad ychwanegol o lawer o adborth, ac os felly, gellir ei adolygu mewn cyfarfod diweddarach.

Ychwanegodd Mr Henwood: “Mae lansio’r ymgynghoriad hwn yn nodi cam pwysig wrth lunio sut rydym yn darparu gofal ar draws naw gwasanaeth clinigol sydd dan bwysau ar hyn o bryd. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan, naill ai drwy gwblhau’r holiadur neu ymuno ag un o’n digwyddiadau. Bydd eich mewnwelediadau, eich syniadau a’ch adborth yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.”

Gall pobl rannu eu barn drwy lenwi holiadur neu fynychu digwyddiadau cyhoeddus, yn bersonol, neu ar-lein.

Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar dudalennau gwe ymgynghoriad penodol y Bwrdd Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol

Nodiadau i'r golygyddion

Mae opsiynau penodol ar gyfer pob un o’r naw gwasanaeth i’w gweld yn Nogfen Ymgynghori Gryno’r Bwrdd Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/ymgynghoriad-cynlluniau-gwasanaethau-clinigol/

  • Gofal Critigol – tudalennau 9–11 
  • Dermatoleg – tudalennau 12–15 
  • Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys – tudalennau 16–18 
  • Endosgopi – tudalennau 19–22 
  • Offthalmoleg – tudalennau 23–26 
  • Orthopedeg – tudalennau 27–30 
  • Radioleg – tudalennau 31–35 
  • Strôc – tudalennau 36–37 
  • Wroleg – tudalennau 38–39 

 

Mae digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal:

  • 17 Mehefin 2025, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli, SA15 3AE, 2pm-7pm 
  • 20 Mehefin 2025, Neuadd Pensiynwyr Rhydaman, Rhydaman, SA18 3EN, 2pm-7pm
  • 25 Mehefin 2025, Ivy Bush Royal Hotel, Caerfyrddin, SA31 1LG, 2pm-7pm 
  • 27 Mehefin 2025, HaverHub, Hwlffordd, SA61 1BG, 2pm-7pm 
  • 30 Mehefin 2025, Canolfan y Morlan, Aberystwyth, SY23 2HH, 2pm-7pm 
  • 4 Gorffennaf 2025, Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, Dinbych-y-pysgod, SA70 8DU, 2pm-7pm 
  • 7 Gorffennaf 2025, Y Plas, Machynlleth, SY20 8ER, 2pm-7pm  
  • 8 Gorffennaf 2025, Neuadd y Dref, Aberteifi, SA43 1JL, 2pm-7pm 
  • 10 Gorffennaf 2025, Pater Hall, Doc Penfro, SA72 6DD, 3pm-6pm 
  • 14 Gorffennaf 2025, Neuadd Goffa Aberaeron, Aberaeron, SA46 0DP, 3pm-6pm 
  • 17 Gorffennaf 2025, Gwesty’r Castell, Llanymddyfri, SA20 0AP, 3pm-6pm  

 

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein: ewch i'n gwefan https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol.