Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ffordd newydd o gael mynediad at gymorth iechyd meddwl

20 Mehefin 2022

Mae un pwynt cyswllt ar gyfer lles ac iechyd meddwl i bobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael ei lansio heddiw (Dydd Llun 20 Mehefin).

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i lansio gwasanaeth cyngor iechyd meddwl pwrpasol, gan gynnig cymorth i bob grŵp oedran drwy’r llinell alwad 111 sefydledig. O heddiw ymlaen bydd pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth drwy ffonio 111 a dewis opsiwn 2 lle byddant yn cael eu trosglwyddo i ymarferydd iechyd meddwl.

Bydd y gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos o 9.00am hyd at 11.30pm, gyda chynlluniau ar waith i symud i oriau gweithredu 24/7 yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl, Lynne Neagle: “Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl brys ac mae lansiad Hywel Dda heddiw yn nodi dechrau’r broses o gyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru.

“Rydym wedi darparu £6m o gyllid gan y llywodraeth i gefnogi byrddau iechyd i weithredu’r gwasanaeth allweddol hwn a fydd ar gael trwy 111 a gwasgu 2 ar gyfer iechyd meddwl. Ein nod yw gweithredu 24/7 ar draws Cymru gyfan erbyn diwedd y flwyddyn.”

Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Pan ddechreuon ni’r daith Trawsnewid Iechyd Meddwl roedd gennym ni uchelgais clir i symud oddi wrth model gwasanaeth traddodiadol i ailgynllunio gwasanaethau er budd pobl leol.

“Mae datblygu un pwynt mynediad wedi parhau’n flaenoriaeth i’r bwrdd iechyd ac mae’n darparu sylfaen ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar y claf, yn ymatebol ac yn hygyrch.

“Rwy’n hynod o falch mai ni yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd yn fyw gyda’r gwasanaeth hwn. Mae wedi bod yn ymdrech tîm mewn gwirionedd a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.”

Dywedodd Liz Carroll, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn croesawu’r cyfle i fod y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd yn fyw gyda’r gwasanaeth Iechyd Meddwl 111.

“Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cael ymateb gwirioneddol frwd gan ein staff a’n rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu hyn.

“Bydd y gwasanaeth hwn yn galluogi ein poblogaeth i gael mynediad at un pwynt cyswllt y gellir ei ddefnyddio gan y rhai sydd am geisio gwybodaeth ar gyfer eu hunain neu anwyliaid mewn perthynas â phryderon neu ymholiadau iechyd meddwl.

“Yn bwysig, bydd gan y rhai sy’n gweithredu’r gwasanaeth y gallu i gynorthwyo i gyfeirio unigolion at y gwasanaethau hynny sy’n bodloni eu gofynion orau gan ddarparu mynediad amserol.”

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans, arweinydd Iechyd Meddwl Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn croesawu’r gwasanaeth newydd hwn ac yn cydnabod gwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol wrth gyrraedd y garreg filltir hon.

“Mae holl staff ein hystafell reoli wedi derbyn hyfforddiant iechyd meddwl ychwanegol yn barod a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr iechyd sy’n darparu’r gwasanaeth.

“Mae ein ffocws ar y cyd yn parhau i fod ar sicrhau mynediad cyflym at y gwasanaethau gorau a mwyaf priodol.”

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r Rhaglen Chwe Nod Cenedlaethol ar gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng sy’n anelu at egwyddor “gofal iawn yn y lle iawn y tro cyntaf”, ac mae wedi’i gynllunio o edrych ar fodelau arfer gorau yn yr Alban a Lloegr yn ogystal â dysgu oddi wrth wasanaethau rhanddeiliaid lleol allweddol gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, staff, Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru a'r Cyngor Iechyd Cymunedol.

Amlygwyd yr angen am un pwynt cyswllt fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus y bwrdd iechyd ar Drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn 2017.

I gael newyddion a diweddariadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i  https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/ (agor mewn tab newydd)