Yn dilyn y cadarnhad y bydd cyflenwad o’r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca y disgwyliwyd iddo gyrraedd y DU cyn canol mis Ebrill nawr yn cael ei ddosbarthu hyd at 4 wythnos yn hwyrach na’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn hyderus na ddylai hyn effeithio ar ymrwymiadau i gynnig dos cyntaf o'r brechlyn i'r 9 grŵp blaenoriaeth cyfredol erbyn canol mis Ebrill neu'r ail ddos yn ôl yr angen.
Bydd y rhai sydd ag apwyntiad brechlyn wedi'i drefnu yn derbyn eu brechlyn yn ôl yr arfer a dylent fod yn bresennol yn eu apwyntiad.
Esbonia Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sut mae dosau ail frechlyn wedi cael eu dosbarthu hyd yma: “Mae mwyafrif yr ail ddosau o’r brechlyn a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd hyd yma wedi bod i staff cartrefi gofal, iechyd a gofal cymdeithasol a dderbyniodd y brechlyn Pfizer-BioNtech ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.
“Cysylltir â thrigolion cartrefi gofal, pobl dros 80 oed a’r rheini rhwng 70 a 74 oed sydd i fod i gael ail frechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn ystod yr wythnosau nesaf ac, unwaith eto, mae’r bwrdd iechyd yn rhoi sicrwydd na fydd ail ddosau yn cael eu gohirio ac y byddant cael ei roi o fewn yr amserlen wreiddiol.
“Gall pobl yng ngrŵp 3, y rhai rhwng 75 a 79 oed, oherwydd eu bod wedi mynychu canolfan brechu torfol ar gyfer eu dos cyntaf o’r Pfizer-BioNtech ddisgwyl gohebiaeth yn fuan i gael eu hail ddos. Mae'r amserlen ar gyfer yr egwyl ail ddos ar gyfer y Pfizer-BioNtech yn wahanol i'r Oxford-AstraZeneca ac fe'i gweinyddir cyn 12 wythnos."
Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod dos sengl o'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn 76% yn effeithiol 3-12 wythnos ar ôl i'r brechlyn gael ei roi ac mae egwyl o 12 wythnos yn nodi effeithiolrwydd 81%.
Peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd neu'ch meddygfa i ofyn a yw apwyntiad wedi'i drefnu yn mynd yn ei flaen neu i holi pryd y byddwch chi'n derbyn brechlyn. Cysylltir â phobl pan fydd eu tro. Cysylltwch dim ond os oes angen i chi aildrefnu neu ganslo apwyntiad.
Dywedodd Jill Paterson Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae meddygfeydd ar draws y tair sir wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros y tri mis diwethaf i ddarparu rhaglen frechlyn ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen.
“Bydd meddygon teulu yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal, y rhai dros 80 oed a phobl rhwng 70 a 74 oed yn derbyn eu hail apwyntiad brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn yr amserlenni sydd wedi'u cynllunio i gynnig yr amddiffyniad mwyaf. Rydym yn hyderus bod cyflenwadau o’r brechlyn hwn yn caniatáu inni wneud hyn tra hefyd yn sicrhau bod y rhai yng ngrŵp blaenoriaeth 6 yn derbyn eu dos brechlyn cyntaf. ”
Gall pobl mewn grwpiau blaenoriaeth 7, 8 a 9 (pawb rhwng 50 a 64 oed heb unrhyw bryderon iechyd sylfaenol) ddisgwyl derbyn eu hapwyntiad i fynd i'w canolfan brechu torfol agosaf erbyn 18 Ebrill.
Bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl a bydd yn gwahodd pobl i wneud eu hunain yn hysbys os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad brechlyn cyn y dyddiad cau carreg filltir 2 cenedlaethol ar 18 Ebrill. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am sut y gall pobl wneud hyn ar ddechrau mis Ebrill.
Nodiadau i’r Golygydd: