Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda ar restr fer Gwobrau Canser Moondance

15 Mehefin 2022

Mae unigolion a thimau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu henwebu a’u rhoi ar y rhestr fer Gwobrau Canser Moondance am eu cyflawniadau ac arloesiadau mewn gwasanaethau canser dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae rhai sydd wedi’u henwi ar gyfer y rownd derfynol o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnwys Dr Rachel Gemine, Dirprwy Bennaeth Sefydliad TriTech, enwebwyd yn y categori Arweinwyr Newydd – Rheolaeth a Gweinyddu ac mae Mr Sohail Moosa, Wrolegydd Ynghynghorol, wedi’i enwebu yn y categori Arweinwyr Newydd – Meddygol, yn ogystal â gwasanaethau canser y Pen a’r Gwddf a enwebwyd yn y Categori Cyrhaeddiad ar gyfer y wobr ymateb i Covid.

Mae tîm Gwasanaeth Cymorth Canser a Gwybodaeth Macmillan yn Hywel Dda hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menter Canser Moondance i ddathlu rhagoriaeth mewn gofal canser yng ngorllewin Cymru ers dechrau’r pandemig.

Mae Menter Canser Moondance yn bodoli er mwyn canfod, ariannu a chefnogi pobl ddisglair a syniadau dewr er mwyn gwneud Cymru’n arweinydd byd o ran goroesi canser. Nod y wobr yw dathlu a rhoi sylw i bobl ar draws GIG Cymru a’i phartneriaid sydd wedi cynnal ac arloesi gwasanaethau canser er gwaethaf amgylchiadau eithriadol y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd:”Rwy’n falch iawn o weld holl waith rhagorol ein cydweithwyr yn ein gwasanaethau canser yn Hywel Dda yn cael eu cydnabod yn genedlaethol. Mae’n wych bod unigolion a thimau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn. Pob lwc i bawb a diolch am eich ymroddiad, arbenigedd a thosturi.”

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau ar gyfer Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Hoffwn longyfarch y tim am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Canser Moondance am fynd gam ymhellach a thu hwnt i ddarparu gofal canser rhagorol yn ystod y pandemig. .

“Gall diagnosis o ganser droi bywyd person wyneb i waered mewn eiliad ac roedd y pandemig yn golygu bod yn rhaid i staff gweithgar y GIG addasu’n gyflym i ddarparu gofal canser o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.

“Mae’r enwebiad hwn yn gyfle gwych i gydnabod a dweud diolch am eu gwaith caled.”

Cynhelir y gwobrau ddydd Iau 16 Mehefin yn Depot, Caerdydd, dan ofal cyflwynydd y BBC, Jason Mohammad.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y ceisiadau a’r enwebiadau ar y rhestr fer yma (agor yn ddolen newydd - Saesneg yn unig).