Neidio i'r prif gynnwy

Hwb mawr i gleifion wrth i Uned Llawdriniaethau Dydd 'uchelgeisiol' gwerth £20m baratoi i agor ei drysau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gyhoeddi agoriad ein Huned Llawdriniaethau Dydd newydd sbon gwerth £20m yn Ysbyty'r Tywysog Philip Llanelli, sy'n hwb mawr i'n hymdrechion i fynd i'r afael â rhestrau aros llawfeddygol ledled y rhanbarth.

Bydd y ddwy theatr newydd, sydd wedi’u darparu diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn agor ddydd Llun 5 Rhagfyr, gan ein galluogi i ddarparu llawdriniaethau i filoedd o gleifion yn gyflymach ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â byrddau iechyd cyfagos.

Yn y pen draw, bydd gan y theatrau y gallu i weithredu chwe diwrnod yr wythnos, a byddant yn cwmpasu arbenigeddau gan gynnwys orthopaedeg, llawfeddygaeth gyffredinol, wroleg a llawfeddygaeth fasgwlaidd, er y bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno fesul cam. Mae'r uned wedi'i dylunio'n benodol i leihau'r risg o heintio eraill, gan gynhyrchu llif o aer glân iawn yn yr ystafelloedd llawdriniaethau, yn ogystal â'r ystafelloedd paratoi, yr ystafelloedd anesthetig, y cyfleusterau newid a'r ardal adfer.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ran Hywel Dda, mae’n bleser gennyf gyhoeddi agoriad yr Uned Llawdriniaethau Dydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip, fel rhan o’n cynllun adfer ehangach i fynd i’r afael yn gyflym â'r rhestrau aros sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig, ac sy’n peri pryder mawr i rai o’n trigolion. Mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd Iechyd.

“Rydym wedi cymryd y cam uchelgeisiol hwn ar ran ein cymunedau, a hoffwn ganmol yn arbennig y gwaith caled a’r ymrwymiad gan dîm y rhaglen, ein staff clinigol, a chymorth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, hebddynt ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”

Ychwanegodd y llawfeddyg ymgynghorol a’r Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu, Mr Ken Harries: "Gyda’r datblygiad newydd cyffrous hwn ar waith, rydym yn ehangu gallu a dyddiau ein theatrau er mwyn bod mor effeithlon â phosibl a thrin cleifion, y mae rhai ohonynt wedi gorfod aros am gyfnodau sylweddol am eu llawdriniaeth.

“Yn y pen draw, bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf hwn yn galluogi tua phedair i bum mil o gleifion i gael triniaethau yn yr uned yn flynyddol, ac ynghyd â’r modd yr ydym yn ymdrin ag adferiad, rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn denu recriwtiaid y dyfodol.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol, Lee Davies: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi agoriad Uned Llawdriniaethau Dydd Ysbyty’r Tywysog Philip er budd ein cleifion a’n cymunedau ehangach, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hymdrech, eu sgiliau, eu cydweledigaeth a’u gwaith caled wrth wneud i hyn digwydd.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod wedi helpu i ariannu’r uned newydd hon a fydd yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael llawdriniaethau yr un diwrnod – gan osgoi’r angen am arosiadau hir yn Ysbyty'r Tywysog Philip. Rydym yn ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn aros am lawdriniaethau ac y bydd yr uned newydd hon yn cyflymu’r broses i’r rhai sy’n aros mewn poen, trwy drin miloedd yn fwy o gleifion bob blwyddyn.”