Neidio i'r prif gynnwy

Hwb Celfyddydol yn dychwelyd ar gyfer 2025!

16 Mai 2025

Mae Hwb Celfyddydol yn dychwelyd ar gyfer 2025 i blant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sy'n hysbys i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (S-CAMHS).

Datblygwyd Hwb Celfyddydol yn 2022 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) mewn ymateb i'r nifer cynyddol o bobl ifanc sy'n ceisio cymorth iechyd meddwl gan S-CAMHS. Mae'n rhaglen wobrwyedig sy'n defnyddio'r celfyddydau i helpu i leihau gofid a gwella iechyd meddwl.

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae'r bwrdd iechyd yn parhau â'i bartneriaeth agos â Span Arts yn Sir Benfro, People Speak Up yn Sir Gaerfyrddin, a Theatr Byd Bach yng Ngheredigion i gyflwyno sesiynau creadigol gyda phobl ifanc 12 i 18 oed sy'n hysbys i S-CAMHS.

Cynigir ystod eang o weithgareddau celfyddydol trwy raglen hyblyg lle gall pobl ifanc ddewis o ystod o ffurfiau celf, gan gynnwys animeiddio, cadw dyddiadur, clai, peintio, lluniadu, a DJio.

Mae'r rhaglen ar gael i blant a phobl ifanc sy'n hysbys i S-CAMHS BIP Hywel Dda rhwng 12 a 18 oed sydd ag anawsterau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Dywedodd Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIP Hywel Dda: “Mae'n hyfryd gweld Hwb Celfyddydol yn dychwelyd am ei bedwaredd flwyddyn gan ein bod wedi gweld dros y tair rhaglen ddiwethaf sut y gall cael mynediad at y celfyddydau helpu i wella lles plant a phobl ifanc, lleihau eu teimladau o ofid, a'u helpu i ddatblygu sgiliau ymdopi creadigol ar gyfer bywyd.

“Os ydych chi neu'ch plentyn yn hysbys i'n Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a Phobl Ifanc, mae ein rhaglen Hwb Celfyddydol ar gael i chi. Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, siaradwch â'ch clinigwr iechyd meddwl cynradd presennol neu cysylltwch â'n harweinydd ar gyfer therapïau seicolegol S-CAMHS, Katie O’Shea ar 01267 674450.”

Mae Hwb Celfyddydol yn seiliedig ar y corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bod gan y celfyddydau rôl allweddol i'w chwarae mewn gofal iechyd, yn enwedig wrth wella lles, hunanhyder, hunan-barch a hunanfynegiant.

Mae BIP Hywel Dda yn falch o gyfrannu tystiolaeth o raglenni Hwb Celfyddydol blaenorol i'r rhaglen genedlaethol Celfyddydau a Meddyliau, a ariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y manteision i blant a phobl ifanc.