Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch i wella eich iechyd meddwl trwy fwynhau taith gerdded llawn hanes Ceredigion

01 Chwefror 2022

Mae Ceredigion yn gyfoethog o ran hanes, tirweddau dramatig a llwybrau arfordirol syfrdanol, sy'n golygu bod llawer o deithiau cerdded gyda golygfeydd hyfryd ar gael o amgylch y sir. Gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn ein hannog i ymarfer hunanofal a mabwysiadu newidiadau bach i helpu i wella ein lles meddyliol, dyma'r amser perffaith i gael ychydig o awyr iach a mwynhau taith gerdded yn un o'r lleoliadau syfrdanol hyn.

Buddion traddodiadol ymarfer corff yw gwella a chynnal ffitrwydd corfforol ond, yn fwy diweddar, mae budd ymarfer corff i wella iechyd meddwl wedi dod i’r amlwg. Mae ymarfer corff yn lleihau'r hormonau straen fel cortisol ac yn cynyddu endorffinau. Endorffinau yw cemegau ‘teimlo’n dda’ naturiol y corff, a phan gânt eu rhyddhau trwy ymarfer corff, caiff eich hwyliau hwb naturiol. Yn ogystal ag endorffinau, mae ymarfer corff hefyd yn rhyddhau adrenalin, serotonin, a dopamin. Mae'r cemegau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i wneud i chi deimlo'n dda.

Dywedodd Dr Kerry Donovan, Pennaeth Seicoleg a Therapïau Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae bwyta’n iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, cadw patrymau cysgu rheolaidd, sefydlu strwythur da ar gyfer ein dyddiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymlacio bob amser yn bwysig i hybu iechyd a lles. Os ydych chi'n profi argyfwng iechyd meddwl neu'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi, gofynnwch am help. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael o hyd ac rydym yma i helpu.”

I gael gwybodaeth am y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ewch i: IAWN - Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Gyda dros £700m yn cael ei fuddsoddi’n flynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG. Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl, gallwch ddod o hyd i gyngor a chymorth ar sut i ofalu am eich llesiant meddyliol yma: Sut wyt ti? - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn yn byw yng Nghymru ac yn profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, yna gallwch chi gael mynediad at wasanaeth therapi ar-lein rhad ac am ddim trwy SilverCloud heb fod angen mynd at eich meddyg teulu trwy fynd i nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Dyma rai o’r teithiau cerdded gwych ar draws Ceredigion

  • Prom Aberystwyth: Yn ffefryn gan dwristiaid sy’n ymweld â’r ardal, ond mae’r daith 2km ar hyd y promenâd yn cael ei mwynhau gan drigolion lleol ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
  • Llanerchaeron, Aberaeron: Mae safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hon yn llwybr cerdded a beicio poblogaidd iawn sy’n dilyn yr afon Aeron o dref harbwr lliwgar Aberaeron.
  • Traeth Ynyslas, Borth: Mae taith gerdded traeth Ynyslas mor agos atdraeth perffaith ag y gallwch ei chael gyda thywod euraidd, dŵr glas cyfoethog a golygfeydd hyfryd o'ch cwmpas.
  • Taith Gerdded Hafod: Un o'r llwybrau a grëwyd gan yr Aelod Seneddol a'r anturiaethwr o'r 18fed ganrif Thomas Johnes, taith gerdded bonheddwyr yn gylchdaith sy'n cychwyn wrth Pont Mynyddig, yn mynd trwy olygfeydd gwyllt ac yn brigo i mewn i'r Ogof y Rhaeadr.
  • Cei Newydd i Gwmtydu: Mae gan y llwybr arfordirol rhwng Cei Newydd a Chwmtydu gymysgedd o bopeth sy’n wych am daith gerdded awyr agored.
  • Cerdded Cors Caron: Mae'n edrych fel y Savannah Affricanaidd, gyda gwastadeddau o laswellt euraidd tal ac isdyfiant iasol. Yn wahanol i’r llwybrau arfordirol llachar gerllaw, mae gan Gors Caron gymeriad unigryw i’r rhai sy’n chwilio am amgylchedd ychydig yn wahanol i’w fwynhau yn yr awyr agored.
  • Taith gylchol Pontarfynach: Cychwynnwch wrth Bontarfynach a gorffen yng ngorsaf reilffordd Cwm Rheidol am dro drwy gaeau agored, llwybrau coetir a thair croesfan hyfryd dros yr afon.
  • Y Bwa: Mae llwybrau lluosog y gallwch eu cymryd i gerdded o dan y bwa enwog yng Ngheredigion a adeiladwyd i goffau Jiwbilî Aur Siôr III. Mae llwybr cylchol poblogaidd yn mynd â chi drwy'r coetir.
  • Llangrannog tuag at Ynys Lochtyn: Dyma un o’r rhannau mwyaf trawiadol o lwybr yr arfordir gyda darnau enfawr o deithiau syth i deithiau cerdded cylchol cymedrol gyda golygfeydd godidog.
  • Aberporth: Taith gerdded hygyrch i bawb gyda golygfeydd godidog yn edrych dros gildraethau tawel, ogofâu ac ochrau clogwyni. Mae'n berffaith ar gyfer gweld dolffiniaid a mwynhau picnic ar un o'r meinciau niferus ar y llwybr.