Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi ymdrech genedlaethol i gyflawni'r rhaglen frechu fwyaf a welodd Cymru erioed, sy'n cynnwys adeiladu seilwaith newydd sbon.
Ers dechrau Ionawr 2021, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn 6,400 dos o frechlyn AstraZeneca / Rhydychen ar gyfer cleifion sydd yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 (cleifion sy'n byw mewn cartrefi gofal) a 2 (cleifion sy'n 80 oed neu'n hŷn, ac yn y blaen - staff iechyd a gofal cymdeithasol), fel y nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
Hyd yn hyn, rhannwyd y brechlyn hwn â 14 meddygfa ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion. Roedd hyn yn seiliedig ar fynegiadau diddordeb cynnar. Nodwyd yr 14 practis hyn i sicrhau y byddai dau fesul clwstwr yn gallu derbyn cyflenwad o'r brechlyn yn ystod yr wythnos gyntaf.
Mae ein meddygfeydd wedi bod yn cydweithio'n agos dros yr ychydig wythnosau diwethaf i ddatblygu cynlluniau i sicrhau eu bod yn cyflwyno'r brechlyn i breswylwyr mewn cartrefi gofal cyn gynted â phosibl, gydag ymweliadau â rhai cartrefi yn cychwyn yr wythnos hon. Anogwyd pob practis i rannu unrhyw gyflenwad brechlyn sydd ganddynt i sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl.
Rydym yn gobeithio y byddwn yn derbyn 15,960 dos arall yr wythnos nesaf, a fydd yn cael ei ddosbarthu i bob meddygfa yn y tair sir. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar sicrhau bod y brechlyn yn cael sicrhad ansawdd a chadarnhau ei fod yn barod i'w ddefnyddio i'n galluogi i dderbyn ein cyflenwad.
Rydym yn hynod ffodus ac yn falch bod pob meddygfa yn y tair sir wedi cytuno i gymryd rhan yn y broses o gyflwyno'r rhaglen frechu hon i gleifion yn y ddau grŵp blaenoriaeth hyn. Fel rhan o'n rhaglen cyflwyno’r frechlyn, byddwn yn gweithio gyda meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod y brechlyn ar gael i gleifion gael mynediad ato'n hawdd ac yn deg.
Diwedd