Neidio i'r prif gynnwy

Hafan y Waun i ddarparu cefnogaeth yn ystod atgyweiriadau

Arwydd Ysbyty Bronglais

11 Gorffennaf 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i ddarparu gofal i gleifion oherwydd bod Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais wedi cau dros dro tra bod atgyweiriadau brys yn cael eu gwneud i do'r ward.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r holl bartneriaid, bydd Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun yn Aberystwyth yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion sy’n barod i gael eu rhyddhau o’r ysbyty ac i ddechrau cam nesaf eu gofal naill ai gartref gyda chymorth gofal cymdeithasol neu i gartref gofal awdurdod lleol.

Disgwylir i’r newid dros dro i ardal ar wahân o Hafan y Waun, a fydd yn cael ei rhedeg gan y bwrdd iechyd, gael ei chwblhau erbyn 22 Gorffennaf 2024.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad i gau Ward Meurig (Oncoleg a Gastroenteroleg) dros dro yn dilyn pryderon y gallai gollyngiad dŵr effeithio ar ofal cleifion yn y ward 14 gwely.

Mae gwaith wedi dechrau ar y gwaith atgyweirio brys a disgwylir iddo gymryd tua thri mis i'w gwblhau.

Mae ward yn cael ei sefydlu mewn ardal ar wahân o Hafan y Waun at ddefnydd Hywel Dda yn unig tan fisoedd cynnar yr hydref.

Enw gweithredol yr uned fydd “Y Bwa – Hafan y Waun” a bydd gofal cleifion yn nwylo’r tîm sy’n rhedeg Ward Y Banwy ym Mronglais ar hyn o bryd.

Dywedodd Matthew Willis, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Bronglais:

“Rydym wedi bod yn edrych ar nifer o opsiynau ac ar ôl ystyried yn ofalus yr effaith bosibl ar gleifion a staff rydym wedi penderfynu mai defnyddio’r lle yn Hafan y Waun yw’r opsiwn gorau. Hoffem ddiolch i'n cydweithwyr yng Nghyngor Ceredigion am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

“Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gefnogi darparu gofal cleifion ers cau gwelyau Meurig ac am eich cefnogaeth barhaus i ddarparu gofal cleifion.

“Bydd y pythefnos nesaf yn gyfnod prysur iawn wrth i ni baratoi ar gyfer trosglwyddo i Hafan y Waun, ond unwaith y bydd wedi’i gyflawni, dylem allu cydbwyso’n well ein galw â’n capasiti tra byddwn yn aros i Ward Meurig ailagor.”

“Mae gofalu am ein cleifion yn hollbwysig i ni ac mae’n ddrwg gennym am unrhyw amhariad y bydd y gwaith atgyweirio brys hwn yn ei achosi i’n cleifion a’u teuluoedd, ymwelwyr a staff.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Lesiant Gydol Oes: “Rydym wedi bod yn archwilio opsiynau i gefnogi Hywel Dda i gynnal gwasanaethau diogel tra bod atgyweiriadau brys ar y to yn cael eu gwneud.

Mae ardal o fewn Hafan y Waun wedi’i nodi i alluogi hyn i symud ymlaen ac mae’n darparu gwahaniad clir rhwng y cartref gofal a’r ward iechyd dros dro, gan sicrhau bod yr holl breswylwyr a chleifion yn gallu cynnal urddas a phreifatrwydd yn eu hamgylchedd eu hunain.

“O fewn y cartref gofal bydd y Rheolwr Cofrestredig a’r Rheolwr Cynorthwyol yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’r holl breswylwyr a theuluoedd ac yn eu cefnogi yn ystod yr amser hwn. Ar adeg mor heriol i'r sector cyhoeddus, mae'n bwysig bod y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio'n agos i gynnal gwasanaethau. Diolchwn i bawb a gymerodd ran am eich cefnogaeth barhaus.”

DIWEDD