22 Rhagfyr 2025
Dathlodd nyrs radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gael ei hanrhydeddu yng Nghynhadledd y Prif Swyddog Nyrsio eleni.
Mae Angharad Hanbury, Nyrs Arweiniol Radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Nyrsio gan Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio (CNO) Cymru.
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, "Ar ran y Bwrdd Iechyd, rwy'n llongyfarch Angharad ar y wobr fawreddog hon ac yn diolch iddi am bopeth y mae hi wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud i wella gofal a gwasanaethau cleifion o fewn radioleg."
Cyflwynwyd yr anrhydedd hon iddi yn y gynhadledd ddiweddar a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, am ei gwaith fel Nyrs Arweiniol Radioleg. Ers iddi ddechrau'r swydd yn 2023, mae Angharad wedi trefnu'n llwyddiannus i adrannau radioleg gael eu cydnabod fel lleoliadau ar gyfer myfyrwyr nyrsio gan chwarae rhan ganolog yn natblygiad llwybrau a phrotocolau clinigol allweddol. Mae hyn wedi cynnwys y llwybr angiogramau coronaidd diagnostig a'r weithdrefn safonol ar gyfer rheolwyr calon dros dro. Mae hi hefyd wedi datblygu peilot ar gyfer dull safonedig o ddogfennaeth nyrsio trwy gyflwyno'r cofnod nyrsio radioleg.
Dywedodd Angharad: "Rwy'n hynod ddiolchgar i gael fy nghydnabod am y gwaith rydw i wedi'i wneud, a byddaf yn parhau i weithio ar welliannau i wasanaethau radioleg, ochr yn ochr â'm cydweithwyr radioleg."
Dywedodd Sarah Procter, Dirprwy Bennaeth Radioleg y Bwrdd Iechyd: "Rwy'n falch iawn bod Angharad wedi derbyn y wobr hon. Mae hi'n enghraifft o rinweddau arweinydd nyrsio eithriadol, ac rwy'n falch ei bod wedi cael ei chydnabod am yr holl waith y mae hi wedi'i wneud i'n cleifion, ein staff a'r gwasanaeth radioleg."
DIWEDD
Nodyn i olygyddion:
Rhoddir Gwobr Rhagoriaeth CNO i'r rhai o fewn y gweithlu bydwreigiaeth a nyrsio sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau dyddiol i ddarparu gofal, arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth rhagorol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gynhadledd y Prif Swyddog Nyrsio yma: Datgelu gweledigaeth newydd ar gyfer gofal nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru | LLYW.CYMRU (agor mewn tab newydd)