Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr am ymrwymiad i gynhwysiant LHDTC+ yn y gwaith

24 Chwefror 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn clod am ein hymrwymiad i gynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a queer yn y gweithle.

Eleni, derbyniodd y bwrdd iechyd wobr Arian gan Stonewall, elusen LGBTQ+ ail-fwyaf y byd. Ers ugain mlynedd, mae’r elusen wedi bod yn cefnogi cyflogwyr i greu gweithleoedd croesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chyfunrywiol.

Ymhlith y mentrau a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd mae Rhwydwaith Staff LHDTC+ ar gyfer staff a chynghreiriaid LHDTC+ sy’n darparu cymorth a chyngor gan gymheiriaid ac yn sicrhau bod lleisiau staff yn cael eu clywed. Gall staff hefyd fynychu sesiynau hyfforddi, fel Sut i fod yn Gynghreiriad Gwell; hyfforddiant Ymwybyddiaeth Traws; a darparu gwasanaethau LHDT Cynhwysol. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn dathlu digwyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn, megis Mis Hanes LHDT, Pride, a Diwrnod Gwelededd Traws.

Dywedodd Joshua Beynon, Rheolwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac aelod Rhwydwaith Staff LHDTC+ Enfys: “Rwyf wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau ond rwy’n teimlo mai Hywel Dda yw’r lle mwyaf  croesawgar i mi fod fel dyn hoyw. Rwyf bob amser wedi teimlo bod croeso i mi, ac maent yn fy nghefnogi a'm trin â pharch. Mae cael gweithle cynhwysol yn fy atgoffa nad oes angen i mi guddio unrhyw agwedd ar bwy ydw i ac y gallaf fod yn agored bob amser gyda chydweithwyr a chleifion, gan wybod bod gennyf gefnogaeth lawn y Bwrdd Iechyd. Diolch Hywel Dda.”

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae popeth rydyn ni’n ei wneud fel bwrdd iechyd, boed yn darparu gwasanaethau yn y gymuned, neu mewn ysbytai, yn dechrau gyda’n staff. Mae llesiant cydweithwyr yn hollbwysig ac rwy’n falch o’r ymdrechion a wnaed hyd yma i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn trin pobl â’r parch a’r urddas y maent yn eu haeddu. Nid ydym yn fwrdd iechyd sy’n gorffwys ar ein rhwyfau, felly’r flwyddyn nesaf ein nod yw ennill y wobr Aur.”

Dywedodd Liz Ward, Cyfarwyddwr Rhaglenni Stonewall: “Mae’n wych bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ennill y wobr Arian am ei ymdrechion a’i ymrwymiad i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, ac edrychwn ymlaen at weld a chefnogi gweddill eu taith cynhwysiant.”