Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod ar draws Hywel Dda

25 Mehefin 2026

Daeth Wythnos Gwirfoddolwyr eleni (1-7 Mehefin) â sefydliadau ynghyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, i ddathlu a dweud "diolch" o galon i'r bobl anhygoel sy'n rhoi eu hamser i gefnogi eraill.

Mae gwirfoddoli yn dod â manteision eang – i sefydliadau, i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac i'r gwirfoddolwyr eu hunain.

Mae'r cyfraniad hwn yn cael ei gydnabod yn y Siarter Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Lles, a fabwysiadwyd gan bartneriaid ledled y rhanbarth, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ym mis Mawrth 2025.

Ymunodd uwch arweinwyr o'r Bwrdd Iechyd â dathliadau ar draws y tair sir i ddangos eu gwerthfawrogiad yn bersonol.

Mynychodd yr Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ddigwyddiad amlasiantaeth bywiog a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS). Trefnwyd a ariannwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mharc Dewi Sant, gan CAVS a'i gefnogi gan Lucy Cummings, Swyddog Datblygu Busnes Newydd. Daeth y cyfarfod ag ystod eang o sefydliadau sy'n cefnogi cymunedau lleol at ei gilydd, gan gynnwys Dolen Teifi, Angor, People Speak Up a llawer mwy. Roedd Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Giles Morgan, hefyd yn bresennol.

Meddai'r Athro Kloer: "Mae gwasanaethau iechyd yn gwneud cyfraniad bach i'n hiechyd a'n lles – mae cysylltiad, perthyn, addysg a chyfleoedd yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n hiechyd a'n lles. "Mae'r Bwrdd Iechyd yn awyddus i gydnabod a dathlu'r ffaith bod gan bawb gyfraniad i'w wneud. Hoffwn ddiolch i sefydliadau a'n partneriaid ledled y rhanbarth sy'n gweithio gyda'i gilydd i dyfu'r ddealltwriaeth hon a'r gwaith pwysig ar ran y Bwrdd Iechyd."

Yn Sir Benfro, cymerodd Dr Bruce Bolam, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, ran mewn digwyddiad cymunedol yn Neuadd a Gerddi Cymunedol Simpson. Trefnwyd ac ariannwyd y digwyddiad gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) ac fe ddaeth partneriaid ynghyd gan gynnwys Cysylltwyr Cymunedol, Bluestone, South Hook, 2Wish a’r Oriel VC a ddarparodd ginio poblogaidd iawn i’r mynychwyr.

Yn y cyfamser, yng Ngheredigion, ymunodd Megan Harris, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, ag un o’r wyth dathliad amlasiantaethol yng Ngheredigion, yn Llandysul, i ddiolch i wirfoddolwyr am eu cyfraniadau amhrisiadwy. Trefnwyd y digwyddiad gan Arts4Wellbeing a’i ariannu gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), gyda chyfraniadau gan sefydliadau gan gynnwys Dolen Teifi a Phont Tyweli.

Ar draws y tair sir, roedd y digwyddiadau wedi'u nodi gan gynhesrwydd, diolchgarwch a chydnabyddiaeth ar y cyd o'r rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles mewn cymunedau lleol.