Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau plant i symud i ganolfan newydd yn Ysbyty Llwynhelyg

11 Medi 2026

Bydd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn Sir Benfro yn elwa o Ganolfan Plant y Pâl newydd yn Ysbyty Llwynhelyg. Disgwylir i'r ganolfan agor y gwanwyn nesaf, ac mae wedi'i wneud yn bosibl yn dilyn buddsoddiad cyfalaf o £750,000 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  

Bydd y ganolfan newydd, sydd wedi'i leoli ym mhrif adeilad yr ysbyty, yn gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau cleifion allanol pediatrig mewn amgylchedd croesawgar newydd wedi'i gynllunio o amgylch anghenion plant a theuluoedd. 

Bydd y gofod yn cynnwys chwe ystafell ymgynghori, cyfleusterau cleifion allanol pwrpasol a bydd yn cefnogi Clinig Mynediad Cyflym. Bydd y clinig hwn yn galluogi plant a phobl ifanc i gael eu gweld gan glinigydd pediatrig o fewn 72 awr ar ôl atgyfeirio gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Nid yw'r clinig hwn yn wasanaeth gofal brys. 

Bydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau gwell i deuluoedd, gan gynnwys man newid pwrpasol gyda theclyn codi a gwely newid, ardal aros gyda theganau a gweithgareddau, a man tawelach ar wahân i'r rhai a allai fod angen amgylchedd mwy tawel. 

Bydd hunaniaeth boblogaidd y Pâl yn parhau drwy'r ganolfan newydd, gyda gwaith celf ac addurniadau yn helpu i greu awyrgylch croesawgar a thawel i gleifion ifanc. Mae'r dyluniadau manwl ar gyfer y gofod newydd bellach wedi'u cwblhau. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ar ôl penodi contractwr drwy'r broses dendro ffurfiol. 

Mae'r datblygiad hwn yn rhan o'r model gwasanaethau pediatrig y cytunwyd arno gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 a phenderfyniadau dilynol gan y Bwrdd yn 2024, ac mae'n cynrychioli buddsoddiad yng ngwasanaethau plant yn Sir Benfro. 

Ochr yn ochr â datblygu Canolfan Plant y Pâl, mae'r gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) yn symud ddydd Llun 14 Medi i leoliad sydd wedi'i adnewyddu yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae SDEC yn galluogi cleifion (dros 18 oed) sydd â chyflyrau meddygol cyffredin i gael eu hasesu, cael diagnosis a chael eu trin ar yr un diwrnod. Dylai hyn alluogi'r claf i osgoi cael ei dderbyn i'r ysbyty yn ddiangen. Nid gwasanaeth galw heibio yw SDEC. Mae cleifion yn cael eu cyfeirio at SDEC gan eu meddyg teulu, parafeddygon (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru), drwy'r Adran Achosion Brys, neu drwy lwybr arall fel clinig cleifion allanol. Mae'r adleoliad hwn yn caniatáu trawsnewid y gofod a ddefnyddid gan SDEC yn gyfleuster pwrpasol i blant, gan gefnogi amgylcheddau gwell ar gyfer y ddau wasanaeth. 

Dywedodd Nick Williams-Davies, y Rheolwr Cyffredinol dros Iechyd Plant, Menywod a Teuluoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd, aelodau o'r staff ac aelodau o'r gymuned yn awyddus i weld cynnydd yn y datblygiad hwn yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym yn gwerthfawrogi'r amynedd a ddangoswyd wrth i ni weithio drwy'r prosesau manwl o gynllunio, dylunio a sicrhau cyllid." 

"Mae Canolfan Plant y Pâl wedi'i gynllunio o amgylch anghenion plant. Bydd yr ardal ehangach a'r cyfleusterau gwell yn caniatáu i'n staff barhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion a'u teuluoedd"  

Dylai plant dros 12 mis oed sydd â mân anaf barhau i fynychu'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'r Uned Mân Anafiadau yn cael ei arwain gan nyrsys ac mae'n trin anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd, gan gynnwys mân doriadau, ysigiadau, toriadau, mân losgiadau, brathiadau a phigiadau. 

Dylai plant sy'n ddifrifol wael neu sydd angen gofal brys barhau i fynd i Ysbyty Glangwili, lle mae gofal pediatrig brys yn parhau i gael ei ddarparu. 

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.