Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth nyrsio newydd i gefnogi gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Dementia UK, yn lansio gwasanaeth nyrsio newydd i gefnogi gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia.

Bydd y gwasanaeth Nyrsys Admiral yn ychwanegiad sylweddol at y gefnogaeth gyfredol sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Mae'r fenter yn unol â Chynllun Gweithredu Dementia Cymru 2018-2022, strategaeth Llywodraeth Cymru yn ceisio cydnabod hawliau pobl â dementia, gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u helpu i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.

Bydd y tîm yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gyda ffocws ar ddarparu gofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n canolbwyntio ar berthynas. Bydd y Nyrsys Admiral yn gweithio ar y cyd mewn dull teulu-ganolog, ar draws llwybrau iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu cefnogaeth, arweiniad arbenigol ac atebion ymarferol i alluogi teuluoedd / gofalwyr, gan gynnwys yr unigolyn sy'n byw gyda dementia, i wneud y gorau o'u llesiant a gwella'r profiad y rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

Dementia UK yw'r unig elusen yn y DU sy'n ymroddedig i gefnogi teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt trwy Nyrsys Admiral arbenigol dementia. Pan fydd pethau'n mynd yn heriol neu'n anodd i bobl â dementia a'u teuluoedd, mae Nyrsys Admiral yn gweithio ochr yn ochr â nhw, gan roi'r gefnogaeth un i un dosturiol, arweiniad arbenigol ac atebion ymarferol a all fod yn anodd dod o hyd iddynt mewn man arall. Maent yn achubiaeth, yn helpu teuluoedd i fyw'n fwy cadarnhaol â dementia ac i wynebu heriau yfory gyda mwy o hyder a llai o ofn.

Dywedodd Charlotte Duhig, Arweinydd Clinigol Nyrsys Admiral: “Mae’n anrhydedd i mi arwain y gwasanaeth newydd hwn i gefnogi gofalwyr a theuluoedd pobl sy’n byw gyda dementia ar draws y siroedd a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod anhygoel o heriol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr ond rwy'n hyderus y bydd y gwasanaeth mawr ei angen hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

“Ar ôl sefydlu Gwasanaeth Nyrsys Admiral, rwy’n ymwybodol o’r budd o weithio fel Nyrs Admiral gan y gall teuluoedd gael y gefnogaeth emosiynol ac ymarferol i’w galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol hefyd fanteisio ar ein gwybodaeth fanwl am ddementia. ”

Dywed Dr Hilda Hayo, Prif Swyddog Gweithredol a Phrif Nyrs Admiral yn Dementia UK: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r gwasanaeth Nyrsys Admiral newydd hwn mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r ffaith bod y gwasanaeth hwn yn ymestyn i ardal wledig fawr yng Ngorllewin Cymru, gyda chefnogaeth dwy Nyrs Admiral sy'n siarad Cymraeg, yn golygu ein bod yn gwella mynediad at gymorth arbenigol dementia i deuluoedd. "

Os ydych chi'n weithiwr iechyd proffesiynol neu ofal cymdeithasol neu'n 3ydd sector yn gweithio gyda rhywun y gallant elwa o’r gwasanaeth hwn neu os ydych chi'n ofalwr rhywun sy'n byw gyda dementia ac yr hoffech chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth, cysylltwch â gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol a all eich cyfeirio.