Neidio i'r prif gynnwy

12 Rhagfyr 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi ymestyn ei Linell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN) a ariennir gan elusen Menter Canser yr Ysgyfaint ar draws holl siroedd BIP Hywel Dda.

Mae LUMEN yn wasanaeth dan arweiniad Nyrsys a lansiwyd ar 15 Awst 2022, fel cynllun peilot yn ardal Sir Gaerfyrddin. Oherwydd yr adborth a’r effaith gadarnhaol gan gleifion, mae’r gwasanaeth bellach wedi’i ymestyn i bob sir ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, o 7 Rhagfyr 2022.

Yng Nghymru, mae dros 2,300 o gleifion yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn, ond mae llai nag 20% o’r rhain yn cael diagnosis yn gynnar. Dangoswyd bod diagnosis cynnar yn cynyddu'r siawns o oroesi. Mae LUMEN yn wasanaeth llinell ffôn sy’n darparu pwynt mynediad i bobl siarad â nyrs arbenigol i drafod eu symptomau a chael eu hatgyfeirio i gael Pelydr-X o’r frest, os oes angen, i ymchwilio i’w symptomau.

Mae LUMEN ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn ardal BIP Hywel Dda, sy’n 40 oed neu’n hŷn, ac sydd ag unrhyw un o’r symptomau hyn:

• Peswch (mwy na 3 wythnos)

• Colli pwysau heb geisio

• Prinder anadl

• Llais cryg

• Heintiau mynych ar y frest

• Poen yn y frest

• Yn fwy blinedig nag arfer

• Colli archwaeth

• Cyflwr ar yr ysgyfaint gyda symptomau yn newid

Wrth esbonio nodau’r prosiect, dywedodd Patricia Rees, Nyrs Brysbennu Canser yr Ysgyfaint: “Mae LUMEN yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl sy’n profi problemau anadlol at nyrs arbenigol a all drafod eu symptomau, ac os yw’n briodol, eu cyfeirio am ymchwiliad pellach.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod cyfradd goroesi canser yr ysgyfaint yn cael ei gwella trwy ganfod yn gynnar.”

Dywedodd Dr Savita Shanbhag, Arweinydd Canser Meddyg Teulu: “Rydym yn credu bod galluogi unigolion i ffonio llinell ffôn LUMEN yn ein helpu i ganfod symptomau’n gynnar ac atgyfeirio cleifion ymlaen i gael diagnosis cynnar. Rydym yn ddiolchgar i elusen Moondance Cancer Initiative am ariannu’r prosiect arloesol hwn.”

Os ydych chi, aelod o'r teulu, neu ffrind yn 40 oed neu'n hŷn a bod gennych unrhyw un o'r symptomau uchod, ffoniwch 0300 3036142 mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am -2pm. I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Canser Moondance ewch i'w tudalen we: https://moondance-cancer.wales (agor yn dolen newydd)