23 Ionawr 2026
Gan ymateb i’r galw cynyddol ar y system gofal iechyd yn Hywel Dda, bydd gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (SA43 1JX) yn ymestyn ei oriau agor dros dro eto dros y ddau benwythnos nesaf (dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Ionawr a dydd Sadwrn 31 Ionawr a dydd Sul 1 Chwefror) i helpu i gefnogi cymunedau lleol.
Mae’r gwasanaeth yn dod â gofal sylfaenol brys, mân anafiadau a rhywfaint o ofal brys yr un diwrnod ynghyd mewn un lle, dan arweiniad uwch ymarferwyr gofal brys profiadol. Mae'n ddewis arall yn lle mynd i adran achosion brys ar gyfer salwch ac anafiadau brys nad ydynt yn bygwth bywyd.
Bydd y gwasanaeth ar agor 9.00am - 5.00pm ar:
Mae’n bwysig bod pobl yn ffonio 01239 807019 cyn mynychu lle bynnag y bo modd, i siarad â nyrs brysbennu a all roi cyngor ac, os yw’n briodol, i drefnu amser apwyntiad.
Sylwch mai trefniant tymor byr, dros dro yn unig yw hwn. Y tu allan i'r dyddiadau hyn, bydd gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod Aberteifi yn parhau i weithredu yn ystod ei oriau arferol yn ystod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am - 6.00pm.
Er na fydd cyfleusterau pelydr-X ar gael yn ystod y penwythnosau hyn, mae cleifion yn dal i gael eu hannog i ffonio'r gwasanaeth brysbennu am gyngor ac arweiniad cyn mynychu.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ymestyn oriau agor gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod Aberteifi dros y ddau benwythnos nesaf i helpu i reoli’r pwysau presennol ar draws ein system iechyd.
“Mae hwn yn newid dros dro o ran agor ar gyfer penwythnosau 24 a 25 Ionawr, a 31 Ionawr a 1 Chwefror.
“Os ydych chi’n teimlo bod angen i chi neu anwylyd fynychu, ffoniwch ni ar 01239 807019 cyn dod. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal cywir, yn y lle iawn, ac ar yr amser iawn.”
Gall unrhyw un sy’n ansicr pa wasanaeth sydd ei angen arnynt fynd i biphdd.gig.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi (yn agor mewn dolen newydd) i gael arweiniad ar y gwasanaethau gofal iechyd sydd ar gael ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Drwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eich salwch neu anaf, rydych nid yn unig yn gofalu am eich iechyd ond yn defnyddio eich gwasanaethau GIG yn gyfrifol. Mae hyn wedyn yn helpu ein staff i drin a gofalu amdanoch yn briodol.
I gael gwybodaeth am wasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod Aberteifi, ewch i biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/gofal-brys-yr-un-diwrnod (yn agor mewn dolen newydd).