Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod Aberteifi ar agor y penwythnos hwn

09 Ionawr 2026

I gefnogi gwasanaethau gofal iechyd ar draws Hywel Dda, bydd y gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (SA43 1JX) ar agor ddydd Sadwrn 10, a dydd Sul 11, Ionawr rhwng 9am a 6.30pm.

Mae'r gwasanaeth yn dwyn ynghyd gofal sylfaenol brys, mân anafiadau a rhywfaint o ofal brys ar yr un diwrnod mewn un lle, dan arweiniad ymarferwyr gofal brys uwch profiadol.

Gofynnir i gleifion ffonio 01239 807019 cyn mynychu i siarad â nyrs brysbennu a all wedyn drefnu amser apwyntiad i fynychu.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae ein hysbytai ar hyn o bryd yn delio â galw sylweddol, sy'n arwain at aros hir yn ein hadrannau brys.

"Mae'r gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yn Aberteifi yn ddewis arall ardderchog i'r rhai sydd angen triniaeth dros y penwythnos.

"Hoffwn ddiolch i'r gwasanaeth am weithio'n gyflym i ymestyn eu horiau agor y penwythnos hwn. Bydd hyn yn darparu cefnogaeth sylweddol i'n system gofal iechyd ehangach. Diolch hefyd i'n cymuned am ein helpu i'ch helpu chi trwy ddewis y gwasanaeth cywir yn y lle iawn."

Er na fydd cyfleusterau Pelydr-X ar gael y penwythnos hwn, gofynnir i gleifion ffonio'r gwasanaeth brysbennu ar 01239 807019 am gyngor ac arweiniad.

Mae gwasanaethau dan bwysau ar hyn o bryd oherwydd cynnydd yn y galw. Trwy ddewis y gwasanaeth cywir, mae pobl nid yn unig yn gofalu am eu hiechyd ond yn defnyddio gwasanaethau'r GIG yn gyfrifol. Mae hyn wedyn yn helpu ein staff i drin a gofalu am gleifion yn briodol.

Gall unrhyw un sy'n ansicr pa wasanaeth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu salwch neu anaf ymweld â https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/helpwch-ni-ich-helpu-chi/ (agor mewn dolen newydd) i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau iechyd sydd ar gael ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

I gael cyfarwyddiadau a rhagor o wybodaeth am wasanaeth Gofal Brys Aberteifi, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/gofal-brys-yr-un-diwrnod/ (agor mewn dolen newydd)

Mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, deialwch 999 bob amser.