Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros wedi lansio

23 Rhagfyr 2021

Mae Gwasanaeth Cymroth Rhestr Aros Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio cynnig o gefnog aeth i gleifion ENT sydd ar ein rhestrau aros am lawdriniaeth ar hyn o bryd.

Bydd y Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros yn darparu cymorth clinigol a chyngor llesiant i gleifion sy'n aros am driniaeth, dros y ffôn a thrwy e-bost.

Gan ddechrau yn gynnar yn 2022 bydd y gwasanaeth hwn yn ehangu i arbenigeddau ychwaneg ol gan gynnwys orthopaedeg, wroleg, offthalmoleg a dermatoleg. cysylltir chleifion yn union gyrchol ynghylch sut i gael gafael ar gymorth.

Dywedodd Anna Llewellin, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth, Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros: "Rydym yn edrych ymlaen at gynnig y gwasanaeth hwn i gleifion Hywel Dda sydd ar ein rhestra u aros am lawdriniaeth ar hyn o bryd.

"Byddwn yn rhoi sicrwydd, yn cynnig un pwynt cyswllt, er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad pe bai symptomau'n dirywio ac yn cyfeirio cleifion at adnoddau llesiant ar-lein i'w helpu i gynnal a gwneud y gorau o'u hiechyd."

Cyhoeddir mwy o wybodaeth wrth i'r gwasanaeth hwn ehangu dros y misoedd nesaf.