Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd

26 Mawrth 2025

Cynhelir ‘Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd a Gollwyd’ blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 26 Ebrill 2025 yng Nghaerfyrddin.

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac i ddod at ei gilydd i dalu parch.

Cynhelir y gwasanaeth yng Nghapel Bethel, Hill House, Teras Picton, Caerfyrddin SA31 3BT am hanner dydd, ddydd Sadwrn 26 Ebrill. Mae Capel Bethel y tu ôl i swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan y Fyddin ar Deras Picton gyda digon o le parcio ar gael.

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn foment bwysig yn y flwyddyn pan fydd rhieni a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofiadau trist babanod sydd wedi marw.

“Does dim ots pa mor bell yn ôl y gwnaethoch ddioddef eich colled, neu ble y digwyddodd neu le yr oeddech yn eich beichiogrwydd, ond mae croeso i chi i gyd.

“Mae’r gwasanaeth yn estyn cyfle i bobl fyfyrio ac i ddod at ei gilydd ac i fod gydag eraill sydd wedi profi colled debyg ac i fod o gymorth pan fydd gofod o gefnogaeth a chariad.”

Dywedodd rhiant sydd wedi mynychu’r digwyddiad, “Mae gwasanaeth coffa fel hwn yn golygu llawer i mi wrth gofio Babi N.”

Ychwanegodd Cerian Llewellyn, pennaeth bydwreigiaeth dros dro, “Colli babi yw un o’r pethau anoddaf y bydd rhieni’n ei brofi ac fel gweithwyr iechyd proffesiynol rydym yma i gerdded wrth eich ymyl drwy’r broses hon.

“Gall galar fod yn llethol, a gall gymryd amser i ddod o hyd i ymdeimlad o heddwch, ond nid ydych chi ar eich pen eich hun yn y daith hon ac mae hynny’n dod yn amlwg wrth i ni uno o fewn y gwasanaeth coffa.

“Mae’r gwasanaeth cofio babanod a garwyd ac a gollwyd yn gyfle i ni anrhydeddu cof eich babi wrth eich helpu chi trwy eich galar a’ch colled.”

Eleni rydym yn cynnig elfen opsiynol ychwanegol i'r gwasanaeth; Gwahoddir rhieni i ddod â llun neu eitem gydag enw eu plentyn neu arteffact fel blanced neu degan gyda nhw i’w gosod ar y bwrdd cof yn ystod y gwasanaeth.

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Gwenidog Tim ac aelodau o Eglwys Bethel a fydd yn darparu lluniaeth.

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyn, medrwch ddanfon neges ebost ar  Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk erbyn dydd Mawrth 22 Ebrill 2025

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk