Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd

03 Ebrill 2023

Cynhelir ‘Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd’ blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 29 Ebrill 2023 yng Nghaerfyrddin.

 

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac i ddod at ei gilydd i dalu parch, cynnau cannwyll a ysgrifennu neges mewn man diogel.

 

Cynhelir y gwasanaeth yng Nghapel Bethel, Hill House, Teras Picton, Caerfyrddin SA31 3BT am hanner dydd, ddydd Sadwrn 29 Ebrill. Mae Capel Bethel y tu ôl i swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan y Fyddin ar Deras Picton gyda digon o le parcio ar gael.

 

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn foment bwysig yn y flwyddyn pan fydd rhieni a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofiadau trist babanod sydd wedi marw.”

 

“Mae colli babanod mewn beichiogrwydd yn alar unig iawn. Mae’r gofod hwn yn amser i gofio am  blant bychan gwerthfawr boed i’r golled fod yn ddiweddar neu yn y gorffennol pell.”

 

“Gallwn gysylltu gydâ’n gilydd fel cymuned a rhannu y teithiau galar. Yn unedig rydyn ni'n anrhydeddu plant gwerthfawr, ac ynghyd rydyn ni'n helpu ein gilydd i wella.”

 

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Tim y Gweinidog ac aelodau o Eglwys Bethel a fydd yn darparu lluniaeth”

 

Bydd y gwasanaeth yn addas ar gyfer aml-ffydd a rhai di-ffydd. Yn ogystal â chofio, bydd gweddïau, darlleniadau, cerddi a cherddoriaeth i fyfyrdod gan offerynnwr a chantor. Bydd cyfle hefyd i gynnau canhwyllau ac amser i osod neges ar y goeden atgofion.

 

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyn, medrwch ddanfon neges ebost ar  Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk  erbyn dydd Iau 27 Ebrill 2023

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk