28 Ebrill 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIHDd) wedi ymestyn y gwasanaeth bws gwennol am ddim rhwng canol tref Llanelli a’r ganolfan frechu torfol yn Nafen i helpu pobl i gael mynediad at eu brechiad COVID-19 mor hawdd â phosibl.
Bydd y bws gwennol, a ddarperir gan Dolen Teifi (agor mewn dolen newydd), yn parhau i redeg rhwng 10.30am a 4.40pm, saith niwrnod yr wythnos. Sylwch na fydd gwasanaeth am 12.00pm o'r dref nac am 12.15pm o'r ganolfan frechu torfol i ganiatáu egwyl ginio i'r gyrwyr.
Gall pobl fynd ar y bws gwennol ar yr awr ac am hanner awr wedi'r awr yn Stryd yr Eglwys, y tu allan i Lys Ynadon Llanelli SA15 3AW (agor mewn dolen newydd). Bydd y bws gwennol yn gadael y ganolfan frechu torfol chwarter wedi a chwarter i'r awr, gan ddychwelyd i ganol y dref a gollwng teithwyr gyferbyn â llyfrgell Llanelli.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym angen cymaint o bobl â phosibl yn mynychu eu hapwyntiadau brechlyn COVID-19, neu alw heibio os yn gymwys.
“Mae’r gwasanaeth bws gwennol hwn yn un o lawer o adnoddau a gwasanaethau ychwanegol sy’n cael eu rhoi ar waith ar draws rhanbarth Hywel Dda i helpu i gefnogi mwy o bobl i gael eu brechiad COVID-19. Rwy’n falch bod y gwasanaeth bws gwennol wedi’i ymestyn i helpu pobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at eu brechlyn COVID-19.”
Ar 21 Chwefror 2022, cyhoeddodd y JCVI ddatganiad, yn argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn.
Bydd mesurau diogelwch llym COVID-19 ar waith i sicrhau diogelwch gyrwyr a theithwyr ar y gwasanaeth hwn:
Cyn teithio heb apwyntiad i ganolfan brechu torfol Dafen, rydym yn cynghori edrych ar wefan y bwrdd iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf megis cymhwysedd brechlyn ac amseroedd agor galw heibio. Cliciwch yma i weld wefan y bwrdd iechyd (agor mewn dolen newydd)