Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith yn Ysbyty Glangwili gyda'r nod o leihau'r pwysau ar yr adran A&E

6 Chwefror 2026

Mae gwaith adnewyddu mawr wedi dechrau yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin diolch i fwy na £2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei wario ar ailwampio adeilad SDEC (Gofal Brys yr Un Diwrnod) i ddarparu mwy o ystafelloedd ymgynghori, gwell derbynfa, ac amgylchedd mwy dymunol i gleifion a staff.

Disgwylir i'r SDEC newydd, leihau'r pwysau ar yr Adran Achosion Brys yng Nglangwili ac mae'n rhan o ymdrechion parhaus i wella profiad cleifion ar draws ein safleoedd ysbyty acíwt a'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Keith Jones, Cyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol a Pherfformiad Hywel Dda: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyllid o £2.096 miliwn a fydd yn ein galluogi i gynyddu capasiti'r SDEC yng Nglangwili. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i leihau pwysau capasiti ar yr Adran Achosion Brys ac yn galluogi ein staff i ddarparu profiad llawer llyfnach a chyflymach i gleifion yn ein gofal."

Bydd y prosiect gwella sylweddol hwn yn golygu bod rhai gwasanaethau yn cael eu hadleoli o fewn safle'r ysbyty tra bod gwaith adeiladu ar y gweill. Mae'r uned SDEC, ynghyd â'r Lolfa Rhyddhau a'r Uned Ddydd Meddygol (yn Ysbyty Dydd y Priordy) wedi symud i'r Lolfa (Ward Padarn gynt).

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Canser (CISS) a'r Gwasanaeth Cymorth Seicolegol Canser (CaPS) hefyd wedi adleoli ond gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad i'r ddau wasanaeth o hyd ac mae'r cyfeiriad e-bost a'r rhif cyswllt yn aros yr un fath.

Bydd rhai gwasanaethau yn aros yn Ysbyty Dydd y Priordy tra bod y gwaith yn mynd rhagddo - mae hyn yn cynnwys podiatreg, niwro-adsefydlu, a therapi galwedigaethol, ond bydd llwybrau mynediad i'r adeilad yn newid.

Dywedodd Mr Jones: "Mae cleifion wedi cael gwybod am newidiadau yn eu llythyrau apwyntiad a bydd arwyddion ar waith i gyfeirio cleifion. Gofynnwn i gleifion sy'n mynychu unrhyw un o'r clinigau yr effeithir arnynt wirio eu llythyrau apwyntiad am wybodaeth am leoliad eu triniaeth. Os nad ydych yn siŵr, gall cleifion hefyd ffonio'r adran ar y rhif yn eu llythyr apwyntiad.

"Diolch ymlaen llaw i bawb sy'n ymweld â'n safle am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y gwaith gwella ar y gweill."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rwy'n falch y bydd y buddsoddiad hwn o £2m a mwy yn helpu i leihau'r pwysau ar yr adran achosion brys a gwella profiad pobl pan fydd angen gofal brys arnynt yn Ysbyty Glangwili.

"Bydd mynd i'r afael â gorlenwi yn lleihau aros ac oedi trosglwyddo, yn symleiddio llif trwy'r ysbyty ac yn gwella profiad cleifion a staff."

DIWEDD

 

Yn y llun o'r chwith: Holley Aston-Brooks, Rheolwr Prosiect a Chomisiynu; Louisa Standeven, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Dros Dro; Lewis Price, Rheolwr Safle i'r contractwyr John Weaver; Dr Caryl Bowen, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau - Gofal Heb ei Drefnu a Gastroenteroleg; Nicola Evans, Rheolwr Gwasanaethau Ysbyty a'r Prif Nyrs Ward Dawn Tapp y tu allan i Uned Ddydd y Priordy.