Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith yn dechrau ar yr Hwb Iechyd a Llesiant

[Datganiad i'r wasg Cyngor Sir Caerfyrddin - 3 Medi 2024] 

Mae'r gwaith ar hen adeilad Debenhams yng Nghaerfyrddin wedi dechrau'n swyddogol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddod â Hwb Iechyd a Llesiant newydd i'r dref.

Mae'r prif gontractwr, Bouygues UK, wedi bod ar y safle ers 15 Gorffennaf 2024, gan drawsnewid yr hen siop yn hwb iechyd a llesiant o'r radd flaenaf sy'n cynnwys cyfleusterau addysg, darpariaeth hamdden unigryw a chanolfan adloniant o safon uchel i'r teulu.

Cyllidir y prosiect hwn mewn partneriaeth â £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Cronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel rhan o Raglen Gyfalaf Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, a hefyd cyllid o £18 miliwn gan Lywodraeth y DU. 

Mae graffeg wedi'i gosod ar y ffenestri presennol ar y safle, gan roi manylion i'r cyhoedd am ba wasanaethau fydd ar gael yn yr Hwb ar ôl iddo agor. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd cymunedol  
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Campfa 24 awr
  • Ystafelloedd ffitrwydd hyblyg
  • Canolfan adloniant i'r teulu: Golff antur, tref chwarae meddal, gwib-gertio electronig a TAGactive
  • Mynediad i Addysg

Ynghyd â'r wybodaeth hon, mae'r graffeg ffenestri yn cynnwys delweddau a luniwyd gan gyfrifiadur, sy'n rhoi syniad o sut olwg fydd ar y lle pan fydd ar agor. Sylwch mai enghreifftiau yn unig yw'r delweddau a ddangosir ar y graffeg.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: "Mae disgwyl i hen safle Debenhams gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref a sbarduno twf economaidd pellach i Sir Gaerfyrddin. Ein gobaith yw y bydd y graffeg ffenestri yn helpu'r cyhoedd i ddychmygu sut olwg fydd ar yr Hwb Iechyd a Llesiant pan fydd ar agor."

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid ar y datblygiad cyffrous hwn a fydd yn lleoli ystod eang o wasanaethau iechyd, llesiant a gwasanaethau eraill gyda'i gilydd mewn hwb canolog. Bydd y cyfleusterau o fudd i'n cymuned leol yn awr ac yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn symud ymlaen dros y misoedd i ddod."

Ychwanegodd John Boughton, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru Bouygues UK: "Mae'n wych cael gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar yr Hwb, gan roi bywyd newydd i bron i 8,000 metr sgwâr o ofod masnachol yng nghanol y dref.

"Trwy adnewyddu yn hytrach nag ailadeiladu'r hen siop fawr byddwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Bouygues UK i gynaliadwyedd hinsawdd ac amgylcheddol, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni weithio ar yr Hwb gyda'n cadwyn gyflenwi leol. Bydd yn ganolfan hanfodol a hygyrch yn y gymuned ar gyfer addysg, iechyd, a hamdden."

Bydd yr Hwb Iechyd a Llesiant ar agor i'r cyhoedd yn 2026.