Neidio i'r prif gynnwy

Gosod pympiau gwres yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi

22 Ebrill 2022

Mae gwaith wedi ei gwblhau i osod pympiau gwres ffynhonnell aer yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, fel rhan o ymrwymiad ehangach Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatgarboneiddio’i adeiladau.

Ariannwyd y fenter £325,000 gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar argymhellion astudiaeth ddichonoldeb gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar atebion gwres carbon isel ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi. Rhoddwyd cymorth i'r bwrdd iechyd i arfarnu opsiynau gwres carbon isel a sut i integreiddio datrysiad yn yr ystafell offer i wasanaethu llwythi gwres tymheredd is. Yr ateb a argymhellwyd oedd y pwmp gwres ffynhonnell aer 70kW ac uwchraddio batris gwresogydd uned trin aer i unedau tymheredd is.

Mae’r pwmp gwres yn amsugno gwres o’r aer ar dymheredd isel ac yn ei ddefnyddio i wresogi hylif oergell arbennig. Wrth iddo dwymo, mae’r hylif yn troi i nwy. Yna mae’r nwy yn mynd trwy’r cywasgydd, i gynyddu’r tymheredd a darparu gwres i’r adeilad. Wrth i’r nwy oeri, mae’n troi’n ôl i hylif eto ac yna mae’n cael ei ailddefnyddio ar ddechrau’r gylchred.

Bydd y pwmp yn lleihau allyriadau carbon yr adeilad gan 30% a gwrthbwyso boeleri nwy naturiol sy'n darparu gwres i'r adeilad ar hyn o bryd.

Dywedodd Paul Williams, Pennaeth Perfformiad Eiddo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithredu lleihau carbon a datrysiadau ynni effeithlon ar ei safleoedd. Mae gosodiad y pympiau gwres carbon isel yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi yn garreg filltir arall yn ein taith tuag at darged Llywodraeth Cymru i'r sector cyhoeddus fod yn sero-net erbyn 2030.”

Ychwanegodd Dave Powlesland, Uwch Reolwr gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Y newid i ffwrdd o danwydd ffosil i gynhyrchu gwres adnewyddadwy carbon isel yw un o’r sialensiau anoddaf sy’n wynebu’r Sector Gyhoeddus ar y llwybr i fod yn sero-net erbyn 2030. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dangos sut y gellir cyflawni ôl-osod pwmp gwres ar safle gofal iechyd cymhleth – bydd y prosiect hwn yn helpu i arwain y ffordd ar gyfer trawsnewid gwres carbon isel ledled Cymru.”

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Mae ganddo darged tymor hir i leihau holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac uchelgais ar gyfer y Sector Gyhoeddus i arwain y ffordd a bod yn sero-net erbyn 2030. Mae’r bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn datblygu sawl menter i gyfrannu ymhellach at hyn a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.