Neidio i'r prif gynnwy

Gohirio Gwasanaeth Babanod Annwyl a Cholled Blynyddol

Ar ôl ystyried a chyda'r cyfyngiadau cloi parhaus a llacio cyfyngiadau yn annhebygol i newid yn sylweddol bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad truenus na fyddwn yn gallu cynnal y 'Gwasanaeth blynyddol  ‘Y Babanod a Carwyd a Cholliwyd'  ar ddydd Sadwrn 3ydd Ebrill 2021, yn y Capel / Ystafell Tawel, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Gwneir y penderfyniad hwn rhwng cydweithwyr o'r uned Caplaniaeth a Bydwreigiaeth a Neo-Natal a Gynaecoleg. Rydym yn ymwybodol mai hwn yw'r ail wasanaeth blynyddol sy'n dioddef y pandemig, ac rydym yn mawr sylweddoli'r effaith a'r siom y bydd hyn yn ei gael ar rieni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd teulu eraill  a staff. Rydym am eich sicrhau ei bod yn meddwl amdanoch ac yn estyn ein dymuniadau a chofion annwyl.

Bydd yr Adran Gofal Ysbrydol yn cynnau cannwyll ar gyfer ein babanod arbennig ac ar gyfer teuluoedd ar y diwrnod ac mi fydd neges yn cael ei gyflwyno ar y Goeden Goffa. Bydd y neges yn cynnwys yfeiriad  hysbysiad hwn yn cynnwys cyfeiriad at staff gofal iechyd yn y Gwasanaethau Menywod a Phlant sydd wedi addasu darpariaethau yn radical i gynnig y gofal gorau i gefnogi teuluoedd yn ystod Covid 19.

Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i ddod â ni at ein gilydd i gofio, i gynnig heddwch ac i gofio gyda chariad ac i edrych ymlaen gyda gobaith. Er ein bod yn sylweddoli bod y penderfyniad hyn yn siomedig, byddwn yn adolygu ac yn ystyried a fydd hi yn ddiogel ac yn ymarferol ac o fewn canllawiau'r Llywodraeth i gael y gwasanaeth yn gynnar yn yr hydref. Os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn cynnal Gwasanaeth Rhithwir ar lein arall yn Hydref 2021.

Os yw'r wybodaeth hon yn effeithio arnoch a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag Euryl o'r Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth) euryl.howells2@wales.nhs.uk neu 01267 227563

Efallai yr hoffech gynnig neges i'w rhoi ar y Goeden Goffa, anfonwch ymlaen i'r cyfeiriad e-bost hwn  loved.forever.hdd@wales.nhs.uk