Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn i bobl mewn grwpiau blaenoriaeth brechlyn 1 i 4 i gysylltu â gwasanaethau iechyd ynghylch apwyntiadau brechlyn cyntaf

Mae rhaglen frechu COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar amser i gynnig brechlyn i bawb mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn dydd Llun 15 Chwefror.

Os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 ac na chysylltwyd â chi ynglŷn â'ch apwyntiad brechlyn, mae angen i chi gysylltu â ni.

Os ydych rhwng 75 a 79 oed, yn cysgodi, neu'n gweithio ym maes iechyd rheng flaen, gofal cymdeithasol neu gartref gofal oedolion hŷn, ffoniwch 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk i archebu'ch brechlyn.

Os ydych chi'n 80 oed neu'n hŷn neu'n 70 i 74 oed, cysylltwch â'ch meddygfa yn uniongyrchol.

Os nad ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 4, peidiwch â chysylltu â ni ar hyn o bryd.

Gadewch i ni gadw Hywel Dda yn ddiogel. Diolch.