Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn rhannu'r hyn a ddysgwyd o adolygiadau COVID-19

Awst 14 2024

Mae adolygiadau i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion a amheuir o COVID-19 (nosocomiaidd) a gafwyd drwy ofal iechyd yn ystod dyfodiad y pandemig wedi cwblhau eu hymchwiliad cychwynnol, yn dilyn rhaglen genedlaethol o waith i gydlynu ymchwiliadau i’r nifer anarferol o uchel o ddigwyddiadau a gofnodwyd.

Nod yr adolygiadau oedd rhoi cymaint o atebion â phosibl i gleifion, teuluoedd a gofalwyr, yn ogystal â nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal yn GIG Cymru.  

Dywedodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Ar ran GIG Cymru, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydymdeimlo’n ddiffuant â phawb a gollodd anwyliaid ar ôl cael COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd - ni ellir diystyru’r effaith.

“Yn ogystal â hyn, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses adolygu, gan gydnabod pa mor anodd fu hyn. Bydd datblygu ein dealltwriaeth am COVID-19 nosocomiaidd a phrofiadau pobl yn cael effaith barhaol ar wella ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarparwn yng Nghymru.

“Mae’r dysgu sydd wedi’i nodi – ac sydd eisoes wedi’i roi ar waith mewn rhai meysydd – yn parhau i fod yn flaenoriaeth i holl sefydliadau’r GIG, fel rhan o’n hymrwymiadau parhaus i ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel.”

Weithiau mae heintiau a gafwyd drwy ofal iechyd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiad sy’n ymwneud â diogelwch cleifion, yn dibynnu ar sut a phryd y cafwyd yr haint. Rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022, roedd 18,360 o achosion a amheuir o COVID-19 a gafwyd drwy ofal iechyd wedi’u nodi yng Nghymru. Oherwydd maint y pandemig, er eu bod mewn lleoliad gofal iechyd, roedd cleifion mewn ysbytai a lleoliadau cleifion mewnol eraill yn wynebu risg gynyddol o COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

Ym mis Ebrill 2022, sefydlwyd y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd fel aelodaeth gyfunol o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru, gyda chefnogaeth Gweithrediaeth GIG Cymru. Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi sefydliadau GIG Cymru i fabwysiadu’r fframwaith ymchwiliadau Nosocomiaidd Cenedlaethol mor gyson â phosibl i’r broses ymchwilio, gan sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal unwaith yn unig ac yn cael eu gwneud yn dda. Roedd y rhaglen hefyd yn galluogi dysgu ar draws y Byrddau Iechyd, hyrwyddo arferion da a nodi cyfleoedd ar draws y system i wella ansawdd gofal yn Genedlaethol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Gweithrediaeth GIG Cymru: “Mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd wedi gweithio ar y cyd â sefydliadau’r GIG i nodi a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd a diogelwch gofal yng Nghymru. Er bod y rhaglen wedi dod i ben yn ei ffurf bresennol, hoffem sicrhau cleifion a’u teuluoedd ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgorffori cyfleoedd dysgu ac arferion da ledled Cymru.”

Yn dilyn y broses adolygu, mae sefydliadau GIG Cymru wedi nodi nifer o themâu dysgu cenedlaethol sydd wedi’u crynhoi yn Adroddiad Dysgu Diwedd Rhaglen y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd (agor mewn ffenest newydd), ac maent yn cynnwys;

  • Gwerth cymorth mewn profedigaeth a gwasanaethau gofal ar ôl marwolaeth i bobl sy’n profi galar.
  • Manteision cymorth i bobl sy'n llywio'r broses pryderon.
  • Effaith cyfyngiadau ymweld, ac ystyried cydbwyso risg â gwerth ymweld.
  • Mae cyfleoedd i wella cyfathrebu gyda theuluoedd a gofalwyr wrth ymweld yn gyfyngedig.
  • Anghydraddoldebau yn y broses pryderon ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal iechyd trwy ddarparwyr annibynnol.
  • Dulliau anghyson o reoli ac adrodd ar heintiau a geir mewn gofal iechyd ledled Cymru.
  • Gwella profiad o gymhwyso Gorchymyn Peidio â Cheisio Adfywio Cardio-pwlmonaidd (DNACPR) trwy well dealltwriaeth a chyfathrebu.
  • Datblygu safonau cadw cofnodion clinigol a gwerth datrysiadau digidol.
  • Yr angen parhaus i fuddsoddi mewn staffio ac adnoddau i adeiladu cadernid.
  • Yr angen i wella'r ffordd y mae canllawiau atal a rheoli heintiau yn cael eu hadolygu a'u cyfleu i staff GIG Cymru.
  • Y gyd-ddibyniaeth gref rhwng polisïau a phrosesau o ran rheoli brigiad o achosion.
  • Effaith oedi wrth ryddhau ar iechyd a gofal.
  • Mae lleoliadau gofal iechyd sy’n heneiddio yn peri heriau o ran atal a rheoli heintiau, yn ogystal â phrofiad y claf.

Mae gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Gweithrediaeth GIG Cymru gynlluniau parhaus ar waith i barhau i wreiddio yr hyn a ddysgwyd o ymchwiliadau i wella ansawdd darpariaeth gofal iechyd yn y dyfodol a phrofiadau pobl.

Bydd sefydliadau GIG Cymru yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion o COVID-19 a amheuir a gafwyd drwy ofal iechyd a ddigwyddodd ar ôl Ebrill 2022 fel rhan o’u dyletswyddau.

DIWEDD