7 Mawrth 2022
Gall pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd â chyfrifoldebau rhiant dros blant 5 i 11 oed nawr drefnu apwyntiad ar gyfer brechlyn COVID-19 cyntaf eu plentyn.
Yn wahanol i gyflwyno’r brechlyn i grwpiau oedran eraill, ni fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn cyhoeddi apwyntiadau ar gyfer plant 5-11 oed yn awtomatig. Yn hytrach, gofynnir i rieni archebu amser a lleoliad sy'n gyfleus iddynt trwy ffonio 0300 303 8322 neu trwy lenwi'r ffurflen gais hon https://forms.office.com/r/Rn7Tifwj6S (agor mewn dolau newydd)
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), y grŵp annibynnol o arbenigwyr sy’n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio, wedi cynghori y dylid cynnig 2 ddos o’r brechlyn COVID-19 Pfizer plant i bob plentyn 5 i 11 oed o leiaf 12 wythnos ar wahân. Pwrpas y cynnig hwn yw rhoi’r cyfle gorau i blant gynyddu eu hamddiffyniad rhag COVID-19 difrifol cyn unrhyw don posibl o COVID-19 yn y dyfodol.
I'r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn ac anaml y mae'n arwain at gymhlethdodau. Mae cyfraddau derbyniadau i’r ysbyty, derbyniadau i ofal dwys a marwolaethau yn is yn y grŵp oedran hwn na grwpiau oedran eraill. Fodd bynnag, gall niferoedd bach o blant gael cymhlethdodau a allai arwain at gael eu derbyn i'r ysbyty. Mae'r risg hon yn uwch os oes gan y plant rai cyflyrau iechyd sylfaenol. Mae cael eich brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn rhag salwch difrifol a mynd i'r ysbyty gyda COVID-19.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd yn BIP Hywel Dda: “I’r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn, ond i nifer fach gall fod yn ddifrifol. Mae cael eu brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o’u hamddiffyn rhag salwch difrifol a mynd i’r ysbyty.
“Rydym yn deall bod rhai rhieni’n nerfus, yn ddealladwy, am eu plentyn yn cael brechiad COVID-19. Chi a’ch plentyn sydd i wneud dewis gwybodus am frechu.
“Y cam cyntaf a phwysicaf yw sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am COVID-19 o ffynonellau dibynadwy. Fe welwch wybodaeth ddibynadwy am frechu ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru phw.nhs.wales/covidvaccine (agor mewn dolau newydd).”
I gael rhagor o wybodaeth am raglen brechlyn COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination (agor mewn dolau newydd).