Penwythnos diwethaf, ffarweliodd y bwrdd iechyd â Preifat Shanice Booth, Preifat Faith Martin a’r Uwch Awyrluyddwr Emily Jenner sydd wedi bod yn rhan annatod o’n rhaglen frechu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Eiliadau ar ôl rhannu rhoddion, daeth staff iechyd a milwrol ynghyd, fel y gwnaeth staff a phersonél milwrol ar draws ein holl ganolfannau brechu, i arsylwi munud o dawelwch cenedlaethol i anrhydeddu Ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin.
Dywedodd yr Uwchgapten Kathryn Dransfield: “Diolch yn fawr am yr anrhegion i’r merched. Roeddent wrth eu bodd.”