Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen brechu rhag COVID-19

Mae brechiad COVID-19 yn rhan bwysig o amddiffyn eich hun os ydych mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19.

Mae'r brechlynnau COVID-19 yn cael eu cynnig oherwydd bod firysau'n newid a diogelwch yn pylu dros amser. Mae'n bwysig ychwanegu at eich diogelwch os ydych yn gymwys.

Gall cael y brechlyn COVID-19:

  • helpu i leihau eich risg o gael symptomau difrifol
  • eich helpu i wella’n gyflymach os byddwch yn dal COVID-19
  • helpu i leihau eich risg o orfod mynd i’r ysbyty neu farw o COVID-19
  • amddiffyn rhag gwahanol fathau o firws COVID-19

Bydd oedolion yn y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o'r brechlyn COVID-19.  

  • Y rhai sy'n 75 oed a throsodd (neu a fydd yn troi'n 75 oed yn ystod y cyfnod y cynigir y brechlyn) 
  • Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn   
  • Pobl â system imiwnedd wan.

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf addas ar gyfer eich oedran a'ch cyflwr.    

Os ydych yn gymwys byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad brechu naill ai gennym ni neu gan eich meddyg teulu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw frechlynnau neu os hoffech drefnu apwyntiad, mae croeso i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i helpu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: