Neidio i'r prif gynnwy

Farwel i Eleri Ebenezer, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG flaenorol Ceredigion a Chanolbarth Cymru

06 Medi 2021

Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth Eleri Ebenezer, Cadeirydd yr hen Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru.

Daliodd Eleri y swydd hon rhwng 1996 a 2006 cyn symud i Lundain lle daeth yn Gynghorydd ar gyfer Bwrdeistref Ealing yn Llundain am 16 mlynedd, lle bu’n gwasanaethu fel Cadeirydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Chysylltiadau Gweithwyr. Bu Eleri hefyd yn gweithio i’r BBC am 15 mlynedd. Yn fwy diweddar bu’n gadeirydd Certitude, darparwr gofal cymdeithasol i oedolion yn Llundain.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:”Er na chefais y fraint o gwrdd ag Eleri fy hun, rwy’n deall ei bod yn angerddol am ddarparu gofal Iechyd rhagorol i’r gymuned a wasanaethodd ac yn arweinydd cefnogol i’r tîm a fu’n gweithio iddi.  

“Neilltuodd ddegawd o’i bywyd i wella gofal iechyd i bobl Ceredigon a Chanolbarth Cymru, gan osod y sylfeini ar gyfer llawer o’r gwasanaethau y mae’r gymuned yn elwa ohonynt heddiw, ac am hynny rydym yn hynod ddiolchgar.”

Ychwanegodd Matther Willis, Pennaeth Datblygu ac Integreiddio Gwasanaethau Ysbyty Bronglais: “Roedd Eleri yn gadeirydd hynod ymroddedig, cyfeillgar a thosturiol. Byddai’n hapus i roi ei hamser pan oedd staff, a ddisgrifiodd yn aml fel rhai ymroddedig a brwdfrydig, angen cyngor a chymorth.

"Roedd yn gofalu’n angerddol am gleifion ac roedd yn eiriolwr cryf dros Ysbyty Bronglais fel darparwr strategol bwysig o wasanaethau hygyrch i boblogaeth ganolbarth Cymru, a chymerodd diddordeb sylweddol mewn mentrau a oedd yn gyrru gwelliannau o ansawddd a gwasanaethau i ddarparu gwell gofal a phrofiad i gleifion.”

Mae teulu a ffrindiau Eleri yn ein meddyliau yn ystod y cyfnod trist hwn.