Neidio i'r prif gynnwy

Fan Brechu Torfol COVID-19 i ymweld â Leekes, Cross Hands, a Tesco, Rhydaman.

7 Medi 2021 

Bydd Fan Brechu Torfol COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dychwelyd i Cross Hands a Rhydaman i ddarparu ail ddos o’r brechlyn COVID-19 a rhoi dos cyntaf i unrhyw un sydd ei eisiau.    

Bydd y fan wedi’i leoli ym maes parcio Leekes yn Cross Hands ar ddydd Gwener, 10 Medi a dydd Sadwrn, 11 Medi, rhwng 11.00am a 7.00pm. Bydd Rhydaman yn gweld y fan yn Tesco ddydd Gwener 17 Medi a dydd Sadwrn 18 Medi rhwng 11.00am a 7.00pm.     

Mae’r gwasanaeth tân yn darparu un o’i gerbydau lle bydd staff BIP Hywel Dda yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hyn sy’n gofyn am naill ai dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn COVID-19.   

Gyda’r cynnydd mewn achosion ledled y DU, mae BIP Hywel Dda yn annog i gymaint o bobl a phosibl i ddod ymlaen am eu dos cyntaf a’r ail ddos.   

Nid oes angen archebu apwyntiad i fynychu’r sesiynau hyn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y rhaglen brechu( yn agor mewn tab newydd).