Neidio i'r prif gynnwy

Fan brechu symudol i deithio i Llwynhendy ac i lan y môr wythnos hon

Bydd fan brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi’i leoli yn ddau leoliad cymunedol yn Llanelli yr wythnos hon.

Ddydd Mercher 21 a dydd Iau 22 o Orffennaf bydd y fan wedi’i leoli ym maes parcio Llyfrgell Llwynhendy (Heol Elfed, SA14 9HH) a dydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 o Orffennaf bydd y fan wedi’i leoli ym maes parcio Clwb Chwaraeon a Chymdeithasu (Caroline Street, SA15 2PB). Bydd y fan ar agor rhwng 11.00yb a 7.00yh. Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.

Bydd y fan brechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn sy’n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna ac AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi’r ail ddos 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus: “ Dros y tair wythnos diwethaf, rydym wedi bod yn defnyddio’r fan brechu symudol er mwyn gallu cyrraedd pobl mewn ardaloedd lle nad oes llawer wedi manteisio ar gael y frechlyn”.

“Hyd yn hyn mae dros 1,247 o freichlynnau wedi’u dosbarthu yn Cross Hands, Doc Penfro a Llanybydder. Wythnos nesaf rydym yn gobeithio symud y fan i Rydamman”.

“Gyda chodiad yn y nifer o achosion ar draws y DU, rydym yn annog pobl i gamu ymlaen i gael eu ddos cyntaf ac ail ddos cyn gynted â phosib.”

Mae clinigau cerdded i mewn yn parhau i weithredu ar draws holl ganolfannau brechu brys Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Plis gwiriwch amseroedd agor y ganolfannau cyn i chi deithio i dderbyn eich dos cyntaf, sydd ar gael i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn, neu os yw’n amser i chi gael eich ail ddos (wyth wythnos ar ôl eich dos cyntaf). Canolfannau brechu torfol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Neu os hoffech drefnu apwyntiad, cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol a gofynnwch am apwyntiad: