Neidio i'r prif gynnwy

Estyniad i oriau agor gwasanaeth Gofal Brys Yr Un Diwrnod Aberteifi ar benwythnosau

17 Ionawr 2025

Yn dilyn penwythnos peilot llwyddiannus, mae gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) yn Aberteifi yn ymestyn ei oriau agor a bydd ar agor bob dydd Sadwrn a dydd Sul tan fis Ebrill.

Bydd yr SDUC, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (SA43 1JX) ar agor ar benwythnosau rhwng 9am - 5pm i helpu i leddfu'r pwysau ar adrannau brys ysbytai.

Arweinir y gwasanaeth gan Uwch Ymarferwyr Nyrsio sy'n gallu asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion sydd wedyn yn gallu dychwelyd adref yr un diwrnod, gyda chynllun gofal sy'n cynnwys atgyfeiriadau i wasanaethau eraill os oes angen.

Er y gall cleifion gerdded i mewn (dros 12 mis oed ar gyfer mân anafiadau, dros 5 oed ar gyfer mân salwch), anogir y rhai sy'n dymuno mynychu yn gryf i ffonio 01239 803075 yn gyntaf i siarad ag ymarferydd i drafod eu mater a all drefnu amser apwyntiad i fynychu neu gyfeirio at wasanaeth arall os yw'n fwy priodol.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar hyn o bryd mae ein hysbytai yn delio â galw digynsail, sy’n arwain at arosiadau hir yn ein hadrannau achosion brys.

“Mae gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yn Aberteifi yn ddewis arall ardderchog i’r rhai sydd angen triniaeth, ac mae’n wych y bydd ar agor saith diwrnod yr wythnos am yr ychydig fisoedd nesaf.

“Cafodd dros 100 o bobl fynediad i’r gwasanaeth yn Aberteifi y penwythnos diwethaf, gan brofi ei fod yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol.

“Hoffwn ddiolch i’r gwasanaeth am weithio’n gyflym i ymestyn yr agoriad penwythnos tan fis Ebrill. Bydd hyn yn rhoi cymorth a rhyddhad sylweddol i’n hadrannau achosion brys.”

Ni fydd cyfleusterau Pelydr X ar gael ar y penwythnos, fodd bynnag gall ymarferwyr asesu, cynghori a chyfeirio at brif ysbyty os oes angen.

Os oes gennych anghenion gofal mwy brys, ewch i adran achosion brys neu mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999.