Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyd cyllid i wella gwasanaethau canser

Heddiw mae Menter Canser Moondance wedi dyfarnu ychydig dros £400,000 i saith prosiect arloesol ledled gogledd a gorllewin Cymru i wella gwasanaethau canser. 

Crëwyd Gwobrau Amser Arloesi Menter Canser Moondance yn Haf 2021 i annog a chefnogi staff ar draws gwasanaethau iechyd a gofal Cymru i fabwysiadu arloesiadau ymarferol a chlinigol i wella canlyniadau canser gydag effaith uniongyrchol - p’un ai mewn gwasanaethau canser, diagnosteg, triniaethau, technolegau galluogi neu’r gweithle. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y GIG yn anelu at wella o effaith mesurau iechyd cyhoeddus a gymerwyd yn ystod y pandemig parhaus Covid-19. 

Mae gwobrau 2021 wedi bod yn agored i staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac wedi cynnig hyd at £100,000 ar gyfer gweithredu arloesed dros 6-12 mis.  

Dyfarnwyd ychydig dros £200,000 i dimau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i:

  • Cyflwyno llwybr newydd pwrpasol ar gyfer canserau sy’n arbennig o anodd eu diagnosio (malaenau o darddiad anhysbys), gan gysylltu â’r ganolfan diagnosis cyflym a gynlluniwyd
  • Cyflwyno rhestr endosgopi newydd a fydd yn galluogi diagnosis cyflymach (ac felly symud ymlaen yn gyflymach i driniaeth) ar gyfer cleifion sydd angen rhywfaint o dawelyddiad i oddef gweithdrefnau endosgopi. 
  • Annog mwy o bobl i ymgysylltu â sgrinio’r coluddyn gartref
  • Treialu defnyddio datrysiad AI i gefnogi timau patholeg wrth wneud diagnosis o ganser y fron, gan alluogi diagnosis cyflymach mewn pryd.

Mae timau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi derbyn ychydig dros £200,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau arloesol:

  • Datblygu teclyn deallusrwydd artiffisial gyda’r potensial i leihau camddiagnosis canserau’r brostad
  • Treialu ap delweddu 3D a ddatblygwyd yn wreiddiol yn sector llawfeddygaeth gosmetig gyda chleifion angen ailadeiladu’r fron – gan leihau’r angen am lawffeddygaeth lluosog
  • Treialu llwybr diagnosis canser yr ysgyfaint newydd y gall gleifion ei gyrchu’n uniongyrchol, gan dynnu pwysau oddi ar feddygfeydd.

Disgwylir i bob prosiect dechrau o fewn 3 mis a chael effaith ymarferol go iawn i gleifion yn 2022.

Gwnaeth Megan Mathias, Prif Swyddog Gweithredol Menter Canser Moondance , y cyhoeddiad heddiw: “Cawsom rai ceisiadau cyffrous o ansawdd uchel ac rydym yn falch iawn o allu ymrwymo dros £400,000 mewn cyllid i gefnogi saith syniad arloesol i wella gwasanaethau canser yn 2022. 

“Ein gobaith yw bod y datblygiadau arloesol hyn yn profi’n well i gleifion, ac yn fyw effeithiol ac effeithlon hefyd – gan alluogi Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda i'w mabwysiadu i wasanaethau craidd yn 2023. 

“Llongyfarchiadau enfawr i'r enillwyr. Wrth gwrs, mae’r gwaith caled yn dechrau nawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gadw mewn cysylltiad â nhw dros y flwyddyn i ddod.” 

Wrth son am y wobr, dywedodd Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi partneru â Menter Canser Moondance ar y Gwobrau hyn. Rydym yn hyderus y bydd y prosiectau hyn yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion canser ledled gorllewin a gogledd Cymru.” 

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fel llawer o bobl, rwyf wedi cael profiad o ganser yn fy nheulu fy hun, ac felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw ein bod ymdrechu’n barhaus i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser, yn enwedig wrth i ni fynd i'r afael â galw ychwanegol yn dilyn pandemig Covid-19. Hoffwn ddiolch i'r holl staff a gymerodd ran yn y gwobrau hyn, ac wrth gwrs llongyfarchiadau enfawr i'r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus. Edrychaf ymlaen at eu cefnogi i lwyddo.”