Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwyr Cymraeg gorau'r Canolbarth yn cael eu gwobrwyo ar faes yr Eisteddfod

Ganghellor Prifysgol Aberytwyth Elizabeth Treasure gyda Nyrs Eiddilwch Clwstwr De Ceredigion Sarah Pask

2 Awst 2022

Derbyniodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda’r wobr i gyflogwyr am Gymraeg yn y Gweithle am ymdrechion ei staff i ddysgu’r iaith. Aeth gwobr Grŵp y Flwyddyn i Glwb Darllen Sir Gâr am godi defnydd a hyder dysgwyr yn yr iaith.  

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi’i ddyfarnu’r cyflogwr gorau am ddysgu’r iaith yn y gweithle. 

Fel rhan o ymdrechion y Bwrdd i annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg, maen nhw wedi datblygu’r brand ‘Rho Gynnig Arni’ a chyfres o adnoddau er mwyn cynorthwyo staff a dysgwyr i gyfathrebu yn yr iaith yn y gweithle.   

Jane Westlake yw un o’r 150 aelod o’u staff sydd wedi elwa o’r gwersi. Mae Jane yn gweithio mewn canolfan frechu, a dywedodd:  

“Pan dwi’n gweithio yn y Ganolfan Frechu, mae’r cleifion yn dod i mewn i adeilad anarferol ac maen nhw’n ofnus achos COVID.  Mae’n well i mi siarad â nhw’n eu mamiaith i drio eu helpu nhw i ymlacio a theimlo’n ddiogel.” 

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:  

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod o falch i dderbyn y wobr hon heddiw. Mae cefnogi ein dysgwyr yn un o’r nodau o fewn ein Polisi Sgiliau Dwyieithog, wrth i ni geisio cynyddu’r nifer o staff sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg gyda’n defnyddwyr gwasanaeth ac ar yr un pryd, cyfrannu at nod strategol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr.” 

Wrth longyfarch pawb ar eu llwyddiant, dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: 

“Llongyfarchion mawr iawn i bawb ar eich llwyddiant wrth ddysgu Cymraeg. Hoffwn i ddiolch i bawb am wneud yr ymdrech honno, ac am fod mor frwdfrydig eich ymdrechion. Mae iaith unigryw Cymru yn drysor cenedlaethol arbennig, ac yn rhodd i bawb sydd yn byw yma. 

“Rydym ni hefyd yn arbennig o ddiolchgar i’r tiwtoriaid sydd wedi helpu cynifer o ddysgwyr ar hyd y blynyddoedd. Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith rhagorol, ac i bawb yn y tîm Dysgu Cymraeg.” 

Mae Adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, gyda darpariaeth benodol i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac i deuluoedd. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i: https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr-cyrsiau/prifysgol-aberystwyth/ (agor yn dolen newydd)