11 Ebrill 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ceisio barn staff ac aelodau o’n cymunedau am dri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, fel rhan o’n strategaeth ehangach i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 23 Chwefror, a gwahoddwyd unigolion a sefydliadau i rannu eu barn ar y rhestr fer o safleoedd erbyn 19 Mai 2023.
Y llynedd, cyflwynom gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3biliwn mewn iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus. Sail y cynllun yw dod â chymaint o ofal â phosib yn nes at gartrefi pobl. Rydym yn cynllunio ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau iechyd a gofal integredig, a fydd yn cael eu dylunio gyda chymunedau lleol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o’n strategaeth i’n helpu i ddarparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, drwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn gwella ac yn cynyddu’r gwasanaethau gofal arbenigol y gellir eu darparu ac yn mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog, gan gynnwys adeiladau sy’n heneiddio, problemau wrth gynnal rotâu meddygol dros sawl ysbyty, a recriwtio staff.
Mae ein hymgynghoriad yn nodi tri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: dau ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.
Nid oes gennym safle a ffefrir ac nid ydym wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle a darparu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto, ac os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda’n cymunedau i baratoi a darparu’r gwasanaethau iechyd a gofal gorau y gallwn.
Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Rydym wedi bod yn ymgysylltu ag unigolion a grwpiau trwy ein digwyddiadau ymgynghori yn bersonol ac ar-lein. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi dod draw i rannu eu barn a gofyn cwestiynau.
“Fel rhan o’r ymgynghoriad, rydych hefyd wedi dweud wrthym yr hoffech gael digwyddiadau ymgynghori ychwanegol i helpu’r rhai nad oeddent yn gallu bod yn bresennol, neu le’r oedd lleoliad y digwyddiadau yn ei gwneud yn anodd i rai cael mynediad iddynt. O ganlyniad, rydym yn ychwanegu pedwar digwyddiad ymgynghori galw heibio ychwanegol fel y rhestrir isod a digwyddiad ar-lein ychwanegol.”
Dydd Gwener 28 Ebrill |
2pm-7pm |
Canolfan Gymunedol Phoenix, 1 Heol Wern, Wdig SA64 0AA |
Dydd Iau 4 Mai |
2pm-7pm |
Canolfan Gymdeithasol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau, SA73 2QT |
Dydd Mawrth 9 Mai |
2pm-7pm |
Gwesty'r Castell, Ffordd y Brenin, Llanymddyfri SA20 0AP |
Dydd Iau 11 Mai |
2pm-7pm |
Neuadd Fictoria, Heol y Bryn, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7EE |
Dydd Mawrth 16 Mai |
6:30pm |
Ar-lein, cofrestrwch ar ein gwefan. |
Mae manylion y rhain, ynghyd â’r dogfennau ymgynghori a’r holiadur, ar gael ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/safle-ysbyty-newydd/ dewch draw i rannu eich barn.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn fuan a chlywed eich barn.