Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud am welyau yn Ysbyty Cymunedol Tregaron

1 Awst 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl i rannu eu barn am effaith cael gwared ar y naw gwely claf mewnol yn Ysbyty Cymunedol Tregaron a darparu gwasanaethau yn eu lle ar gyfer mwy o bobl yn y gymuned yng Ngheredigion.

Mae’r cyfnod hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd yn adeiladu ar y sgyrsiau y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’u cynnal gyda’n cymuned ers 2014 pan rannwyd y model gofal newydd fel rhan o brosiect Cylch Caron.

Rhwng 1 Awst a 29 Awst 2024, gallwch roi adborth am y newidiadau a sut y gallai'r rhain effeithio arnoch.

Bydd y cynnig ar gyfer model gofal newydd, sy’n rhan o brosiect ehangach Cylch Caron ac yn unol â gweledigaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach, yn gweld symud gofal cleifion mewnol o’r ysbyty i gartrefi pobl. Wedi’i alluogi trwy fodel cymorth gwahanol, bydd staff yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, yn canolbwyntio ar gadw pobl yn iach gartref, a gyda mwy ohonynt ar gael i helpu pobl yn y gymuned.

Nod y Bwrdd Iechyd yw darparu gwasanaeth mwy diogel a chynaliadwy ar draws Ceredigion, tra’n gwella’r gofal a’r ddarpariaeth i gleifion. Bydd yn gwella cymorth yn y gymuned a bydd hefyd yn helpu rhag rhoi pobl mewn gwelyau ysbyty ac mewn perygl o ddirywio pan fyddant yn feddygol ffit i fod adref. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth lliniarol yn y cartref a gwasanaethau mwy ymatebol i alluogi pobl i aros adref a hynny’n ddiogel.

Fel rhan o brosiect Cylch Caron, bydd canolfan adnoddau integredig yn cael ei datblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru, gan ddwyn ynghyd ystod o wasanaethau gofal, iechyd a thai ar gyfer y dyfodol mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos. Wrth i’r gwaith o ddatblygu cynllun Cylch Caron fynd rhagddo, mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried ei fodel gofal presennol ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Tregaron.

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er gwaethaf ymdrechion parhaus i recriwtio i swyddi, mae lefel bresennol ein staff yn Ysbyty Tregaron yn annigonol, ac mae ein rotâu staffio yn fregus. Mae staff wedi lleisio pa mor heriol yw cefnogi cleifion mewnol drwy ein model gofal presennol yn Ysbyty Tregaron.

Trwy newid y model gofal fel y mae'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd yr un staff yn gallu gofalu am hyd at ddeugain o gleifion yn eu cartrefi eu hunain.

“Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, rydym yn cynnig symud ein staff o fod yn yr ysbyty i fod yn y gymuned. Byddai hyn yn golygu disodli’r naw gwely sydd yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd gyda gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned, gan ein galluogi i gefnogi mwy o gleifion yn eu cartrefi a darparu ein model gofal cymunedol yn gynt.”

“Mae cleifion wedi rhannu’n gyson y byddai’n well ganddyn nhw fod gartref, neu’n agosach at adref, ac mae hyn yn tueddu i gefnogi eu hadferiad. Bydd gwneud y newid hwn yn golygu y gallwn ofalu am fwy o bobl a’u cefnogi, mewn ffordd sy’n briodol i’w hanghenion, ac o fewn eu cymuned leol.

“Mae Ysbyty Tregaron wedi bod yn rhan o’n cymuned leol ers blynyddoedd lawer. Wrth i ni ddatblygu gweledigaeth ehangach Cylch Caron, bydd Ysbyty Tregaron yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer ein staff cymunedol ac yn gyfleuster ar gyfer gwasanaethau cleifion allanol.”

Gallwch rannu eich barn rhwng 1 Awst a 29 Awst 2024 yn y ffyrdd canlynol:

  • Digwyddiad galw heibio – unrhyw bryd rhwng 2pm a 7pm ddydd Mercher 21 Awst 2024 yn Neuadd Goffa Tregaron, Y Sgwâr, Tregaron, Ceredigion SY25 6JL
  • Digwyddiad rhithiol ar-lein (dros Zoom) - 22 Awst 2024 am 6pm (manylion ar gael ar ein gwefan Dweud Eich Dweud isod)
  • Gwefan Dweud Eich Dweud sydd i’w gweld yma
    Dweud eich Dweud BIP Hywel Dda (cymru.nhs.uk) (agor mewn dolen newydd)
  • Rhif ffôn: 0300 303 8322 (a dewis opsiwn 5 am ymholiadau cyffredinol)
  • Ebost: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk 

Bydd adborth o’r ymgysylltu yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2024 ochr yn ochr â gwybodaeth bwysig arall, megis gofynion ansawdd a diogelwch, heriau staffio, a goblygiadau ariannol ac adnoddau cyn penderfynu ar y camau nesaf.