Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud am wasanaethau fferyllol y dyfodol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i roi eu barn ar wasanaethau fferyllol cymunedol.

Defnyddiwyd gwybodaeth gychwynnol, a gasglwyd trwy arolwg ym mis Tachwedd y llynedd, i baratoi Asesiad Anghenion Fferyllol drafft. Mae'r asesiad hwn yn edrych ar ble mae fferyllfeydd wedi'u lleoli a pha mor bell y mae'n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig ac a yw'r gwasanaethau cyfredol yn diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae'r bwrdd iechyd bellach yn gofyn am farn pobl ar yr Asesiad Anghenion Fferyllol drafft, cyn cyhoeddi fersiwn derfynol ym mis Hydref. Mae angen adborth i wirio bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chynnwys a bod y casgliadau ar wasanaethau fferyllol yn briodol. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cefnogi'r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fferyllol yn y dyfodol.

Mae'r arolwg yn gofyn cwestiynau am y ddarpariaeth fferyllol gyfredol ac yn caniatáu i bobl wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar wasanaethau fferyllol a'r casgliadau yn y ddogfen.

Bydd yr arolwg ar agor rhwng 7 Mai 2021 a 6 Gorffennaf 2021. Gall pobl gymryd rhan trwy ymweld â: https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/asesiad-o-anghenion-fferyllol-2021 , gan godi copi papur yn eu fferyllfa leol, neu gysylltu â Thîm Fferylliaeth Cymunedol y bwrdd iechyd i ofyn am gopi trwy e-bost: CommunityPharmacy.HDD@wales.nhs.uk neu dros y ffôn: 01554 783746.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dyma’r ymarfer ymgynghori mwyaf i wasanaethau Fferylliaeth Gymunedol ei gynnal Nghymru a bydd yn rhoi cyfle i bobl roi eu barn ar ddarpariaeth fferyllol gyfredol a fydd yn siapio sut y dylai gwasanaethau’r dyfodol edrych.”

Ychwanegodd Gareth Harlow, Fferyllydd Cymunedol,: "Fel fferyllydd cymunedol byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i fod yn rhan o lunio gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yn y dyfodol trwy ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

“Mae fferyllfeydd cymunedol bob amser wedi ymdrechu i sicrhau mai iechyd a lles y cyhoedd yw ein blaenoriaeth gyntaf a thrwy ddarparu’r adborth hwn inni gallwn sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn."

Cyhoeddir y canlyniadau mewn Asesiad Anghenion Fferyllol terfynol ym mis Hydref 2021 a’u cyhoeddi ar wefan y bwrdd iechyd.

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych gwestiynau am gwblhau'r arolwg, e-bostiwch CommunityPharmacy.HDD@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01554 783746.