Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad y rhaglen frechu rhag COVID-19 ddydd Llun 20 Rhagfyr 2021

Mae datganiad i’r wasg newydd gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru ar gael yma: Diweddariad y rhaglen frechu rhag COVID-19 ddydd Ian 23 Rhagfyr 2021(agor mewn dolen newydd)

Anogir yn gryf i unrhyw un sydd wedi cael cynnig apwyntiad i'w frechu wneud ei orau i'w gadw, p'un a yw'n cael ei gynnig mewn Canolfan Brechu Torfol, meddygfa neu fferyllfa gymunedol leol.

Fodd bynnag, os nad ydych wedi cael cynnig apwyntiad eto, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr yn gwahodd unrhyw un dros 35 oed, ynghyd â'r rhai mewn grŵp blaenoriaeth uwch, i alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol i gael eu brechu.

Erbyn 31 Rhagfyr 2021, rydym yn anelu at gynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys a chynyddu nifer y brechiadau sydd ar gael.

Ffocws y bwrdd iechyd fu sicrhau bod pobl yn parhau i gael apwyntiad yn nhrefn blaenoriaeth ar sail oedran a bregusrwydd. Byddwn yn gwneud hyn yn y ffyrdd a ganlyn:

Meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol dethol
Rydym yn gweithio gyda meddygfeydd er mwyn cynnwys unrhyw rai sy'n gallu i ddarparu mwy o frechlynnau atgyfnerthu yn lleol. Rhaid cydbwyso hyn yn ofalus yn erbyn gallu'r feddygfa i gynnal y modd y darperir gwasanaethau craidd.

Mae gennym hefyd nifer o fferyllfeydd cymunedol sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y rhaglen a byddant yn rhoi cyhoeddusrwydd i amseroedd eu clinigau ar gyfer cyflwyno dos atgyfnerthu yn lleol.

Peidiwch â ffonio'ch meddygfa neu'ch fferyllfa gymunedol i ofyn am y brechlyn COVID-19. Os yw'ch meddygfa yn cymryd rhan yn y rhaglen atgyfnerthu, byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ac yn cynnig apwyntiad i chi. Os gwnânt hynny, derbyniwch y cynnig.

Cefnogaeth ychwanegol i’r rhai sy’n gaeth i’r tŷ a phreswylwyr cartrefi gofal

Bydd cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn cael eu cefnogi gan feddygfeydd lleol lle mae staffio yn caniatáu, tra mewn ardaloedd eraill bydd ein tîm brechu cymunedol yn trefnu ymweliad a chynnig brechu. Os ydych eisoes wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd gyda'ch manylion, nid oes angen i chi gysylltu â ni eto gan ein bod yn gweithio trwy'r rhestrau gyda'n timau meddygon teulu.

Cysylltir â chartrefi gofal ar frys i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael cynnig dos atgyfnerthu ac y byddant yn cael eu cefnogi gan feddygfeydd a'n tîm brechu cymunedol. Os yw'r cartref gofal eisoes wedi cysylltu â ni gyda'r manylion hyn, nid oes angen iddynt gysylltu â ni eto gan ein bod yn gweithio trwy'r rhestrau hyn gyda'n timau meddygon teulu.

Cynyddu apwyntiadau a drefnwyd
Bydd apwyntiadau a drefnwyd yn parhau i gael eu cyhoeddi ar gyflymder uwch. Gall hyn fod trwy lythyr a/neu neges destun. Ein nod yw cysylltu â phawb sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu erbyn dydd Gwener 31 Rhagfyr gyda chynnig. Oherwydd yr amser o'r flwyddyn a'r heriau o ran apwyntiadau yn cyrraedd pobl, rydym yn cynnig sesiynau galw heibio fesul cam gan flaenoriaethu yn ôl oed.

Rydym yn deall bod pobl wedi cael anhawster wrth gysylltu â ni dros y ffôn neu e-bost i ganslo neu aildrefnu eu hapwyntiad. Mewn ymateb, mae'r bwrdd iechyd wedi cynyddu nifer y rhai sy'n delio â galwadau a negeseuon e-bost. Byddwn yn parhau i gefnogi pobl i ddod i gael brechiad ar amser a diwrnod sy'n addas iddyn nhw, ond er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd pawb gyda'u cynnig erbyn 31ain Rhagfyr, bydd yr apwyntiadau sydd wedi'u hail-drefnu yn cael eu cynnal yn ystod wythnosau cyntaf mis Ionawr.

Gofynnwn i bobl wneud popeth o fewn eu gallu i fynychu'r apwyntiad a roddir iddynt, bydd hyn yn helpu mawr i'r rhaglen, ond gobeithiwn y bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn helpu pe bai ei angen arnoch.

Clinigau Galw Heibio

Os ydych wedi cael apwyntiad, cadwch ef.

Er mwyn sicrhau y gallwn ymestyn y cynnig o wahoddiad ar gyflymder ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, mae clinigau atgyfnerthu galw heibio yn cael eu hadfer yn chwech o'n canolfannau brechu torfol, ar gyfer y grwpiau canlynol yn unig (*gweler gwaelod y diweddariad ar gyfer y Canolfannau Brechu Torfol sy'n cymryd rhan ac amseroedd agor):

  • Pawb dros 35 sydd wedi cael eu hail neu drydydd dos o leiaf 13 wythnos yn ôl
  • Unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn a gafodd eu hail neu drydydd dos o leiaf 13 wythnos yn ôl sydd naill ai a) yn gweithio mewn cartref gofal b) yn weithiwr rheng flaen yn y maes iechyd neu ofal cymdeithasol c) yn ofalwr di-dâl d) yn byw gyda rhywun sydd â gwrthimiwnedd neu e) yr ystyrir o fod mewn risg o gael haint COVID-19 (grwpiau blaenoriaeth 4 a 6)

Bydd y grwpiau sy'n gymwys i alw heibio am ddos atgyfnerthu yn cael eu hehangu cyn gynted â phosib. Cadwch lygad am gyhoeddiadau ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol BIP Hywel Dda neu yn y cyfryngau lleol. Gwerthfawrogir eich dealltwriaeth wrth i ni geisio sicrhau bod ein poblogaeth hŷn a chlinigol fregus yn cael eu blaenoriaethu.

Bydd dosau cyntaf ar gael ym mhob canolfan brechu torfol heblaw Cwm Cou ar ffurf galw heibio ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n 12 oed neu'n hŷn (dros 16 oed yn unig yn y cyfleuster gyrru drwodd ar Faes y Sioe).

Bydd ail ddos ar gael ym mhob canolfan brechu torfol heblaw Cwm Cou ar ffurf galw heibio ar gyfer:

  • Unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn os yw wedi bod o leiaf 8 wythnos ers eu dos cyntaf.
  • Gofynnir i'r rheini rhwng 12 a 15 oed i aros am apwyntiad neu sesiwn galw heibio os yw wedi bod yn fwy na 12 wythnos ers cael y dos cyntaf (dros 16 oed yn unig yn y cyfleuster gyrru drwodd ar Faes y Sioe).

Dylai’r bobl sy'n dewis galw heibio fod yn ymwybodol y rhoddir blaenoriaeth i apwyntiadau a drefnwyd, a dylent fod yn barod i aros amser hir ac o bosib yn yr awyr agored, neu gael eu troi i ffwrdd os oes pryderon iechyd a diogelwch yn y ganolfan. Ni oddefir cam-driniaeth geiriol nac ymddygiad ymosodol tuag at unrhyw staff neu wirfoddolwyr y ganolfan.

Gofynnir i'r rheini sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu i gyrraedd dim mwy na 10 munud cyn amser eu hapwyntiad a rhoi gwybod i wirfoddolwr neu aelod o staff eu bod wedi cyrraedd.

Peidiwch â mynychu os ydych chi'n teimlo'n sâl neu os ydych chi wedi cael prawf positif COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf. Ar hyn o bryd, cynghorir plant dan 18 oed i aros 12 wythnos o brawf positif COVID-19 cyn cael unrhyw ddos COVID-19.

*Amseroedd galw heibio ar gyfer dosau cyntaf ac ail, ac ar gyfer dos atgyfnerthu i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9

Bydd mwyafrif y canolfannau brechu torfol sy'n cymryd rhan yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer pobl gymwys sy’n galw heibio rhwng 11am ac 8pm. Bydd Canolfan Brechu Torfol Dinbych-y-pysgod yn cynnal sesiynau galw heibio rhwng 10am a 6pm ar y diwrnodau penodol y mae ar agor. Bydd galw heibio trwy yrru drwodd ar faes y sioe rhwng 11am a 8pm. Sylwch fod Canolfan Brechu Torfol Cwm Cou, ond yn cynnal apwyntiadau wedi'u trefnu oherwydd materion diogelwch cadw pellter cymdeithasol a rheoli traffig. Peidiwch â chyrraedd yn gynnar ar gyfer sesiynau galw heibio.

Dyma’r Canolfannau Brechu Torfol sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos ar gyfer grwpiau cymwys i alw heibio:

  • Aberystwyth – Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth SY23 3AS (ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. Ar agor tan 4pm ddydd Llun 27 Rhagfyr)
  • Caerfyrddin (cerdded mewn) - Y Gamfa Wen, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant SA31 3EP (ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr, cau am 2.30pm ar 31 Rhagfyr ac ar gau 1 Ionawr)
  • Caerfyrddin (gyrru drwodd – dros 16 yn unig) – Maes y Sioe SA33 5DR (ar gau 24, 25, 26, 27, 31 Rhagfyr a 1 Ionawr)
  • Hwlffordd – Archifdy Sir Benfro, Prendergast SA61 2PE (ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. Cau am 2.30pm ar 27, 30 a 31 Rhagfyr)
  • Llanelli - Uned 2a, Ystad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin SA14 8QW (cau am 5pm ar 18 Rhagfyr ac am 4.30pm ddydd Llun 27 a dydd Iau 30 Rhagfyr. Ar gau 24, 25, 26 a 31 Rhagfyr a 1 Ionawr)

Bydd Canolfan Brechu Torfol Dinbych-y-pysgod (Canolfan Hamdden, Marsh Road SA70 8EJ) ar agor ar gyfer galw heibio rhwng 10am a 6pm ar y dyddiau canlynol ym mis Rhagfyr:

  • Dydd Gwener 17 tan ddydd Sul 19 Rhagfyr; Dydd Mawrth 21 tan ddydd Iau 23 Rhagfyr; ac ar ddydd Mawrth 28 tan ddydd Iau 30 Rhagfyr.
  • Ar gau ar benwythnos 24 tan 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr tan 2 Ionawr.

Dim ond apwyntiadau a drefnwyd sy’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Brechu Torfol Cwm Cou (Ysgol Trewen, Cwm-Cou SA38 9PE), oherwydd materion diogelwch cadw pellter cymdeithasol a rheoli traffig.

Ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle nad ydynt yn agos at sesiwn alw heibio neu os na allant alw heibio am resymau iechyd a symudedd, gofynnwn iddynt gysylltu â llinell Ymholiadau Covid ar 0300 303 8322 neu e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk.

Ewch i https://hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch atgyfnerthu COVID-19 yn Hywel Dda.