Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad y rhaglen frechu rhag COVID-19

Mae datganiad i’r wasg newydd gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru ar gael yma:  Diweddariad y rhaglen frechu rhag COVID-19 ddydd Llun 20 Rhagfyr 2021(agor mewn dolen newydd)

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn diweddaru preswylwyr ynghylch sut y byddwn yn cwrdd â'r nod uchelgeisiol o gynnig apwyntiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Rhagfyr 2021, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog.

Yn allweddol i lwyddiant cynnig brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, yw i bobl dderbyn y cynnig am frechlyn ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynychu fel y trefnwyd, p'un a ydynt yn cael ei gynnig mewn Canolfan Brechu Torfol, meddygfa neu o bosib mewn fferyllfa gymunedol leol yn y dyfodol agos.

Er mwyn cyflymu'r rhaglen, bydd sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cynnig fel opsiwn i rai pobl. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fesul cam yn ôl blaenoriaeth mewn rhai Canolfannau Brechu Torfol ar amseroedd penodol ac yn amodol ar gapasiti, gydag apwyntiadau sydd wedi'u trefnu yn cael blaenoriaeth (mwy o fanylion isod).

Cadwch at yr amseroedd agor penodol ar gyfer sesiynau galw heibio neu cewch eich troi i ffwrdd a byddwch yn tarfu ar apwyntiadau a drefnwyd.

Y rhai sy'n gymwys i alw heibio o ddydd Mercher 15 Rhagfyr yw pawb a gafodd eu hail neu drydydd dos sylfaenol 13 neu fwy o wythnosau yn ôl ac sydd yn 50 oed neu’n hŷn, neu'n 16 oed neu'n hŷn ac yn gweithio mewn cartref gofal neu rheng flaen iechyd neu ofal cymdeithasol; yn ofalwr di-dâl; yn cael ei ystyried mewn risg o gael haint COVID-19 (grwpiau blaenoriaeth JCVI 4 a 6); neu'n byw gyda rhywun sydd â gwrthimiwnedd.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore: “Rwy’n hynod falch o’n holl staff brechu, y rhai y mae’r cyhoedd yn cwrdd â nhw yn y canolfannau a phawb y tu ôl i’r llenni, sydd wedi gweithio’n ddiflino ar ôl blwyddyn o frechu saith diwrnod yr wythnos. 

“Hoffwn gydnabod y gefnogaeth a gynigir gan ofal sylfaenol, gwirfoddolwyr, partneriaid a staff a gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo'r rhaglen ac sydd wedi ymateb i'n galwad am gymorth.

“Diolch hefyd i’r cyhoedd am gamu ymlaen i dderbyn brechlyn ac i’r rhai ohonoch sydd wedi bod mor amyneddgar a diolchgar. Bydd yr wythnosau nesaf yn hynod heriol i bawb sy'n cymryd rhan ac rwy'n gofyn i'n cymunedau fod yn garedig gyda'n staff a dilyn ein cyngor ar beth i'w wneud.

“Rhannwch y wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, yn enwedig y rhai heb fynediad rheolaidd i'r rhyngrwyd neu bapur newydd. Nawr yw'r amser i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod cymaint o'n poblogaeth - cyn gynted â phosib - yn derbyn y brechlyn maen nhw'n gymwys amdano. Ewch am eich brechlyn atgyfnerthu, neu eich dos cyntaf neu ail os oes eu hangen arnoch, a hynny cyn gynted â phosib. Diolch yn fawr.”

Ffocws y bwrdd iechyd fu sicrhau bod pobl yn parhau i gael apwyntiad yn nhrefn blaenoriaeth ar sail oedran a bregusrwydd. Byddwn yn gwneud hyn yn y ffyrdd a ganlyn:

Meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol dethol
Rydym yn gweithio gyda meddygfeydd er mwyn cynnwys unrhyw rai sy'n gallu i ddarparu mwy o frechlynnau atgyfnerthu yn lleol. Rhaid cydbwyso hyn yn ofalus yn erbyn gallu'r feddygfa i gynnal y modd y darperir gwasanaethau craidd.

Mae gennym hefyd nifer o fferyllfeydd cymunedol sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y rhaglen a byddant yn rhoi cyhoeddusrwydd i amseroedd eu clinigau ar gyfer cyflwyno dos atgyfnerthu yn lleol.

Peidiwch â ffonio'ch meddygfa neu'ch fferyllfa gymunedol i ofyn am y brechlyn COVID-19. Os yw'ch meddygfa yn cymryd rhan yn y rhaglen atgyfnerthu, byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ac yn cynnig apwyntiad i chi. Os gwnânt hynny, derbyniwch y cynnig.

Cefnogaeth ychwanegol i’r rhai sy’n gaeth i’r tŷ a phreswylwyr cartrefi gofal

Bydd cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn cael eu cefnogi gan feddygfeydd lleol lle mae staffio yn caniatáu, tra mewn ardaloedd eraill bydd ein tîm brechu cymunedol yn trefnu ymweliad a chynnig brechu. Os ydych eisoes wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd gyda'ch manylion, nid oes angen i chi gysylltu â ni eto gan ein bod yn gweithio trwy'r rhestrau gyda'n timau meddygon teulu.

Cysylltir â chartrefi gofal ar frys i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael cynnig dos atgyfnerthu ac y byddant yn cael eu cefnogi gan feddygfeydd a'n tîm brechu cymunedol. Os yw'r cartref gofal eisoes wedi cysylltu â ni gyda'r manylion hyn, nid oes angen iddynt gysylltu â ni eto gan ein bod yn gweithio trwy'r rhestrau hyn gyda'n timau meddygon teulu.

Cynyddu apwyntiadau a drefnwyd
Bydd apwyntiadau a drefnwyd yn parhau i gael eu cyhoeddi ar gyflymder uwch. Gall hyn fod trwy lythyr a/neu neges destun. Ein nod yw cysylltu â phawb sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu gydag apwyntiad erbyn dydd Gwener 31 Rhagfyr. Oherwydd yr amser o'r flwyddyn a'r heriau o ran apwyntiadau yn cyrraedd pobl, rydym yn cynnig sesiynau galw heibio fesul cam gan flaenoriaethu yn ôl oed.

Rydym yn deall bod pobl wedi cael anhawster wrth gysylltu â ni dros y ffôn neu e-bost i ganslo neu aildrefnu eu hapwyntiad. Mewn ymateb, mae'r bwrdd iechyd wedi cynyddu nifer y rhai sy'n delio â galwadau a negeseuon e-bost. Byddwn yn parhau i gefnogi pobl i ddod i gael brechiad ar amser a diwrnod sy'n addas iddyn nhw, ond er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd pawb gyda'u cynnig erbyn 31ain Rhagfyr, bydd yr apwyntiadau sydd wedi'u hail-drefnu yn cael eu cynnal yn ystod wythnosau cyntaf mis Ionawr.

Gofynnwn i bobl wneud popeth o fewn eu gallu i fynychu'r apwyntiad a roddir iddynt, bydd hyn yn helpu mawr i'r rhaglen, ond gobeithiwn y bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn helpu pe bai ei angen arnoch.


Clinigau Galw Heibio

Os ydych wedi cael apwyntiad, cadwch ef.

Er mwyn sicrhau y gallwn ymestyn y cynnig o wahoddiad ar gyflymder ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, mae clinigau atgyfnerthu galw heibio yn cael eu hadfer yn chwech o'n canolfannau brechu torfol, dim ond ar gyfer y grwpiau canlynol (*gweler gwaelod y diweddariad ar gyfer y Canolfannau Brechu Torfol sy'n cymryd rhan ac amseroedd agor):

  • Pawb sy’n 50 oed a hŷn a dderbyniodd eu hail neu drydydd dos o leiaf 13 wythnos yn ôl
     
  • Unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn a gafodd eu hail neu drydydd dos o leiaf 13 wythnos yn ôl sydd naill ai a) yn gweithio mewn cartref gofal b) yn weithiwr rheng flaen yn y maes iechyd neu ofal cymdeithasol c) yn ofalwr di-dâl d) yn byw gyda rhywun sydd â gwrthimiwnedd neu e) yr ystyrir o fod mewn risg o gael haint COVID-19 (grwpiau blaenoriaeth 4 a 6)

Bydd y grwpiau sy'n gymwys i alw heibio am ddos atgyfnerthu yn cael eu hehangu cyn gynted â phosib. Cadwch lygad am gyhoeddiadau ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol BIP Hywel Dda neu yn y cyfryngau lleol. Gwerthfawrogir eich dealltwriaeth wrth i ni geisio sicrhau bod ein poblogaeth hŷn a chlinigol fregus yn cael eu blaenoriaethu.

Bydd dosau cyntaf ar gael ym mhob canolfan brechu torfol ar ffurf galw heibio ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n 12 oed neu'n hŷn (dros 16 oed yn unig yn y cyfleuster gyrru drwodd ar Faes y Sioe).

Bydd ail ddos ar gael ym mhob canolfan brechu torfol ar ffurf galw heibio ar gyfer:

  • Unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn os yw wedi bod o leiaf 8 wythnos ers eu dos cyntaf.
  • Gofynnir i'r rheini rhwng 12 a 15 oed i aros am apwyntiad neu sesiwn galw heibio os yw wedi bod yn fwy na 12 wythnos ers cael y dos cyntaf (dros 16 oed yn unig yn y cyfleuster gyrru drwodd ar Faes y Sioe).

Dylai’r bobl sy'n dewis galw heibio fod yn ymwybodol y rhoddir blaenoriaeth i apwyntiadau a drefnwyd, a dylent fod yn barod i aros amser hir ac o bosib yn yr awyr agored, neu gael eu troi i ffwrdd os oes pryderon iechyd a diogelwch yn y ganolfan. Ni oddefir cam-driniaeth geiriol nac ymddygiad ymosodol tuag at unrhyw staff neu wirfoddolwyr y ganolfan.

Gofynnir i'r rheini sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu i gyrraedd dim mwy na 10 munud cyn amser eu hapwyntiad a rhoi gwybod i wirfoddolwr neu aelod o staff eu bod wedi cyrraedd.

Peidiwch â mynychu os ydych chi'n teimlo'n sâl neu os ydych chi wedi cael prawf positif COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf. Ar hyn o bryd, cynghorir plant dan 18 oed i aros 12 wythnos o brawf positif COVID-19 cyn cael unrhyw ddos COVID-19.

*Amseroedd galw heibio ar gyfer dosau cyntaf ac ail, ac ar gyfer dos atgyfnerthu i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9

Bydd mwyafrif y canolfannau brechu torfol sy'n cymryd rhan yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer pobl gymwys sy’n galw heibio rhwng 11am ac 8pm. Bydd Canolfan Brechu Torfol Dinbych-y-pysgod yn cynnal sesiynau galw heibio rhwng 10am a 6pm ar y diwrnodau penodol y mae ar agor. Bydd galw heibio trwy yrru drwodd ar faes y sioe rhwng 11am a 7pm. Sylwch fod Canolfan Brechu Torfol Cwm Cou, ond yn cynnal apwyntiadau wedi'u trefnu oherwydd materion diogelwch cadw pellter cymdeithasol a rheoli traffig. Peidiwch â chyrraedd yn gynnar ar gyfer sesiynau galw heibio.

Dyma’r Canolfannau Brechu Torfol sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos ar gyfer grwpiau cymwys i alw heibio:

  • Aberystwyth – Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth SY23 3AS (ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. Ar agor tan 4pm ddydd Llun 27 Rhagfyr)
  • Caerfyrddin (cerdded mewn) - Y Gamfa Wen, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant SA31 3EP (ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr, cau am 2.30pm ar 31 Rhagfyr ac ar gau 1 Ionawr)
  • Caerfyrddin (gyrru drwodd – dros 16 yn unig) – Maes y Sioe SA33 5DR (ar gau 24, 25, 26, 27, 31 Rhagfyr a 1 Ionawr)
  • Hwlffordd – Archifdy Sir Benfro, Prendergast SA61 2PE (ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr. Cau am 2.30pm ar 27, 30 a 31 Rhagfyr)
  • Llanelli - Uned 2a, Ystad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin SA14 8QW (cau am 5pm ar 18 Rhagfyr ac am 4.30pm ddydd Llun 27 a dydd Iau 30 Rhagfyr. Ar gau 24, 25, 26 a 31 Rhagfyr a 1 Ionawr)

Bydd Canolfan Brechu Torfol Dinbych-y-pysgod (Canolfan Hamdden, Marsh Road SA70 8EJ) ar agor ar gyfer galw heibio rhwng 10am a 6pm ar y dyddiau canlynol ym mis Rhagfyr:

  • Dydd Gwener 17 tan ddydd Sul 19 Rhagfyr; Dydd Mawrth 21 tan ddydd Iau 23 Rhagfyr; ac ar ddydd Mawrth 28 tan ddydd Iau 30 Rhagfyr.
  • Ar gau ar benwythnos 24 tan 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr tan 2 Ionawr.

Dim ond apwyntiadau a drefnwyd sy’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Brechu Torfol Cwm Cou (Ysgol Trewen, Cwm-Cou SA38 9PE), oherwydd materion diogelwch cadw pellter cymdeithasol a rheoli traffig.

Ewch i https://hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch atgyfnerthu COVID-19 yn Hywel Dda.